Mewn Albwm

Cardda rhai adwaenom heno
Ewrop bell ddi‑gainc,
Lle mae dafnau gwaed ar fentyll
Prydain Fawr a Ffrainc.

Cysga eraill a adwaenom
Yn y fynwent brudd;
Lle mae’r awel fyth yn wylo,
Wylo nos a dydd.

Troeog iawn yw llwybrau bywyd
Megis gwynt yr hwyr;
Pa le'n cludir ninnau ganddo,
Duw yn unig ŵyr.

Gan y bardd enwog, Hedd Wyn.


Yn y Wyddeleg / sa Ghaeilge



Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Hafan / Abhaile / home