Ar Gyfer Heddiw’r Bore



Ar gyfer heddiw’r bore'n faban bach, yn faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Jesse’n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria’n faban bach, yn faban bach,
Yn sugno bron Maria’n faban bach.

Caed bywiol ddŵr Eseciel, ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel, ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
’R addewid ’roedd i Adda,
Yr Alffa a’r Omega, ar lin Mair, ar lin Mair,
Mewn côr ym Meth’lem Juda, ar lin Mair.

Diosgodd Crist ei goron, o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion, o’i wirfodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddioddef dirmyg llidiog, o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er codi pen yr euog, o’i wirfodd.

Am hyn, bechadur, brysia fel yr wyt, fel yr wyt,
I mofyn am y noddfa, fel yr wyt;
I ti’r agorwyd ffynnon,
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn ar Salmon, fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.

Gan y Parch. Owen Davies (Eos Llechid).



Peth am hanes y carol hyfryd hwn



Ar YouTube
Recordiad gyda chamera bach digidol yn y ‘Pabell yr Eglwysi’ yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Awst 2008.

Ymddiheuraf am yr hinsawdd gwael...

Nodyn:
Plygain: ymddengys i’r gwasanaeth unigryw hwnnw ddiflanu, bron iawn, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Credir iddo ddeillio o’r Offeren arbennig cyn torri’r wawr a geid yng Nghymru cyn y Diwygiad.
Daeth y gair ’plygain’, yn ôl y gwybodusion, o’r gair Lladin pullicantus.
Ystyr y gair hwnnw yw caniad y ceiliog ben bore, neu, fel y’i ceir yn y gerdd, Yr ymweliad â Bethlehem, gan y Prifardd Alan Llwyd: "wrth i’r ceiliog glochdar o’i glwyd ei gân blygeiniol."



Y Plygain yn Llanllyfni, Gwynedd, yn ein Dyddiau ni

CD:Carolau Plygain / Caneuon Llofft Stabal 2003, Sain SCD 2389.

Saesneg / English

Gwyddeleg / Gaeilge

Gorgysylltiadau i'r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Christmas Box

Hafan