Y Bedd Hwnnw: Bedd Cardinal Newman


Pan oeddwn ar gychwyn unwaith i’r Canoldir, i Ddinas Birmingham, yr oedd un dymuniad arbennig o flaen fy llygad,—cael cipolwg ar Neuadd enwog y ddinas, a hynny am dri rheswm,—onid ohoni hi y dihangodd Lloyd George, ddyddiau Rhyfel De Affrica, mewn dillad. plismon, pan oedd y dyrfa loerig am ei waed, ac onid dyna ddyddiau gloywaf Lloyd George, yn ei holl hanes cynhyrfus, pan âi â’i fywyd yn ei law, i ddadlau. achos cenedl fach orthrymedig? Onid adeiladwyd hi hefyd ar gynllun y Parthenon, temI enwocaf yr hen Roeg, ac un o adeiladau enwocaf a pherffeithiaf y byd, ac onid yngolwg y dernI hon y bu Paul yn dadlau â’r Groegiaid ynghylch atgyfodiad Crist? Ac oni chynhesai calon Cymro hefyd wrth edrych arni a chofio mai o le teilwng o’r Parthenon, y daeth ei cherrig, o’r hen chwarel yn ymyl Priordy Penmon, ym Môn dirion dir? Dyma’r rheswm triphlyg dros fynnu ei gweld; ond wedi ei gweld, yr oedd fy siomi yn driphlyg hefyd, ac ni bydd llawer o awydd ynof eto i gael cipolwg arni.

Noson gynhyrfus oedd honno dros hanner can mlynedd yn ôl, a chynulleidfa waedwyllt yn disgwyl am eilun Cymru i’w rwygo’n ddarnau, ac eto yntau’n Ilwyddo i ddianc. Syndod pob syndod yw i un o’i fychander ef lwyddo i fynd drwy dyrfa lofruddiog mewn dillad plismon, heb iddi sylwi ar y gwrthuni. Ac eto nid oes dim mor ddwl â thyrfa wedi colli ei phen. Nid oes dim yma heddiw i'm hatgoffa o’r cynnwrf hwnnw o’r hen fyd. Y mae’r neuadd yn ddisylw iawn gan bawb, sy’n rhuthro heibio, i’w fusnes ei hun, heb gymaint â thaflu llygad i’w chyfeiriad.

A du iawn yw cerrig gwynion Môn heddiw, nes codi hiraeth am olwg ar eu cymheiriaid ar y penrhyn hwnnw a olchir bob dydd gan awelon y môr mawr. Teimlir mai gresyn oedd bod y cerrig wedi gorfod newid eu lle, o’r hen lendid i'r mwrllwch yma.

Gwir fod y neuadd wedi ei llunio hefyd ar batrwrn hen dernI y Parthenon ar yr Acropolis yn Athen. Y mae'r un fath yn union â’r lluniau ohoni, ond y fath watwar o’ r Parthenon yw'r n??uadd ei hun! Y Parthenon yn ei chylchyniadau yn un o ryfeddodau'r byd,—y marmor gwyn, yr awyr glir, y ffurfafen ddisgIeirlas, a’ r llewyrch ar y môr sy’n ymestyn hyd olygiad pellaf y llygad. Y mae'r neuadd ynghanol tawch parhaus, ac yn lle tawelwch hen oesoedd berw cras dinas fawr, ac adeiladau sgrechlyd diwydiant yn pwyso arni, yn ddolur llygad a chIust, o bob cyfeiriad. Cyffelyb yw i ferch yn golchi'r llawr yn ei gwisg briodas. Siomedig iawn oeddwn wrth droi cefn, ond gwnaed iawn am y siom pan arweiniwyd fi i weld y bedd rhyfeddol, a gofiaf tra fyddwyf, ac y trof yn ôl iddo'n gyson am dangnefedd pan fo’r byd a’i helynt wedi mynd yn ormod imi. B??m yn Birmingham drachefn. Euthum heibio i’r neuadd, ond yrnwelais yn arbennig â’r bedd.

Daeth cyfaill o weinidog heibio, Cymro Cymroaidd iawn a oedd yn weinidog gyda’ r Saeson, a gallu rhyfedd ganddo i ffureta popeth anghyffredin a dieithr. Ef a gynigiodd fynd â mi i weld y bedd. Pan ddeallais bedd pwy, collais bob awydd i’w weld, canys gwelwn gofgolofn rodresgar, angylog, yn rhythu arnaf, ond ni ddadrithiwyd fi’ n debyg erioed. Yn lle troi cefn arno mewn diflastod, daeth y cof amdano yn rhan o wynfyd fy mywyd, i’ m harwain at yr “Hedd, perffaith hedd, na wyr y byd amdano.”

Cychwynasom, ac aeth y cyfaill â mi at y tram, a gw??n anniffiniol ar ei wyneb a ddangosai fod ganddo rywbeth i’ m hysgytio yn y daith. Yn lle mynd i gyfeiriad y ddinas gwelwn fod y tram yn tynnu tua’r wlad. Mynd filltir ar ôl milltir nes cyrraedd terfyn eithaf llwybr y tram, chwe milltir i ffwrdd, ym mhentref Rednal ar odre Bryniau Lickey, cyrchfan tyrfaoedd ar ddyddiau heulog haf, bryniau heirdd coediog. Pentref gwledig yw Rednal, ond y ddinas yn dechrau gosod ei hôl arno. Wedi cyrraedd, torri’n union ar draws y ffordd at ddrws llwybr yr ochr arall iddi, ac ar y drws, mewn llythrennau breision, y geiriau,— STRICTLY PRIVATE.

Agor y drws a mynd drwyddo, a’ n cael ein hunain ar drawiad wedi cau’ r byd yn Ilwyr o'n hôl. Llwybr cul, lleidiog, ond carped trwrn o ddail yr hydref arno, a rhyw ddwy droedfedd o laswellt bob ochr iddo rhyngddo a bonau’ r cloddiau. Cloddiau uchel, gwylltion, a gwrychoedd uchel ac afl??r yn codi ohonynt, a chyfarfod ei gilydd yn do uwch ein pennau. Y Ilwybr yn lledu ychydig fel yr aem ymlaen, a choed yn cymryd lle’ r gwrychoedd, a charped rnwyth y dail yn trymhau, a’ r cerdded arnynt yn ddistaw a hyfryd.

Wedi mynd ryw ddau neu dri chan llath ar y Ilwybr cefnu‒ar‒y‒byd hwn, try'r Ilwybr ar y chwith. Ar y naill ochr i’ r tro y mae hen sied, ac yn y tro, ar dwrnpath bach, y mae croes, ac arni y geiriau hyn:

𔃈 LAUS DEO. In thankful remembrance of June 30th, 1866, when Divine Providence saved our schoolboys all collected round their father prefect under the adjacent shed, from a sudden thunderstorm when the lightning playing around them struck with death as many as ten sheep about the field and trees close by.𔃉.

A’ r groes yn llechu dan gysgod pren.

Braidd yn angharedig, efallai, fuasai awgrymu gan fod Rhagluniaeth drugarog wedi arbed y bechgyn a’ u tad ysbrydol, na fuasai waeth iddi daflu ei chysgod dros y defaid druain hefyd, yn enwedig gan mai llywodraethwr Rhagluniaeth yw awdur Dameg y Ddafad Golledig. Wrth glodfori Rhagluniaeth yn y modd hwn, onid ydyw’ r dystiolaeth hon yn ei bychanu hefyd, drwy ei gwneud braidd yn grintachlyd yn ei hamddiffyniadau? Cul yw’ r ffin rhwng ofergoel a ffydd, a nodweddiadol iawn o’ r grefydd a gododd y garreg hon.

Wedi mynd heibio i’ r sied a’ r groes, cerdded ymlaen ychydig ar hyd llwybr llydan dan gysgod coed. Trymha carped tew dail yr hydref dan ein traed, a’ r gwrych uchel ar y dde yn mynd yn fwy carpiog ac adwyog. Troi ychydig ar y dde a gweld talcen plasty mawr drwy adwyon y gwrych.

Yna'r plasty yn ein hwynebu’ n llawn. Fel un cyfarwydd gwyddai fy nghyfaill mai dyma’ r tŷ yr oeddym i ofyn caniatâd ynddo i ddyfod drwy’ r drws STRICTLY PRIVATE canys bu yma o’ r blaen, yn arwain pererinion fel myfi.

Plasty hardd â’i safle’ n anghyffredin o hyfryd. O’i flaen y mae lawntiau, y naill o dan y llall, a grisiau’ n mynd o’ r naill i’ r Hall, a gerddi, a glaswellt y lawntiau wedi ei gneifio’ n llwyr, a phopeth yn batrwm o ddestlusrwydd a chwaeth. Mynd at ddrws y ffrynt, curo a dweud ein neges, a rhoddi'r caniatâd yn llawen a chynhesol gan wraig ieuanc radlon. Y tu ôl i’ r drws agored y mae neuadd y plasty, ac yna y gwelwch nad plas cyffredin ydyw. Y mae'r neuadd wedi ei throi’ n gapel bach, a hanner dwsin o gadeiriau ynddo, a delw sant neu ddau. Yn eich wynebu, i mewn yn y pared de, y mae croes aruthrol a delw fawr o'r Gwaredwr yn hongian arni. A gwyddom yn awr ymh’ le’ r ydym, yng nghafell weddi neu fetws offeiriaid,𔃼 encilfa Oratori Birmingham.

Cofiaf rywbeth, a iasau’ n dechrau fy ngherdded, canys yr wyf yn troedio man cysegredig, ond dyfod o hyd i’ r llecyn. O'n blaenau wrth edrych allan y mae dyffryn, a bryniau a choedwigoedd yn ymdoddi ac ymestyn y tu hwnt i ganfyddiad y llygad, a’ r unigrwydd a’ r tawelwch mor llwyr â phe na bai dinas fawr o fewn miloedd o filltiroedd. Y wraig yn dyfod allan gyda ni a dangos adwy inni wrth dalcen chwith y tŷ. Lleindir yno o ryw bymtheg llath o hyd a lled, gwrychoedd uchel ar dair ochr iddo, y llecyn tawelaf, mwyaf tangnefeddus, yn yr holl fyd. Lawnt, na, gardd; gardd? na, mynwent, na, gardd. Petruso, canys ni welsom erioed ddirn tebyg na’ i ddychmygu.

Y mae’ r llain bron yn llawn o feddau, ond y fath feddau! Pedair rhes o bump yr un, a bedd arall yn dechrau rhes arall, y cwbl yn wynebu'r un ffordd, a dau fedd arall yn eu hwynebu hwythau. Wedi ychwanegu pedwar bedd arall at y bedd sy’ n dechrau rhes yn y fan draw, bydd y lle’n llawn. Draw acw mewn lle enciliedig, ar ei ben ei hun, a Ilwybr rhyngddo a’ r lleill, y mae bedd arall. Yn llythrennol, ofnwn fynd yrnlaen, rhag torri ar y tangnefedd.

Nid oes yma awgrym o angau du, dim ond gorffwystra hyfryd ar ddiwedd dydd. Y mae'r holl gerrig beddau, ac eithrio'r un draw ar ei phen ei hun, yn union yr un fath, ac yn rhyfeddol o symI,—cylch hollol grwn, a chroes yn ei ganol, ar ei draws ac ar ei hyd, a choes i bob carreg i’w gosod yn y tir, pob carreg yn rhyw lathen o uchder, o dywodfaen Ilwyd, ac enwau’r claddedigion arnynt, dyddiad y marw, weithiau dyddiad y geni, dyna’r cwbl.

Nid ydyw’r beddau hyn yn debyg i feddau. Yn hytrach y maent yn debycach i'r gwrymiau ar welyâu wrth i ffurfiau cyrff y cysgwyr ddangos drwy’r dillad, a thipyn o ofod rhyngddynt heb derfyn pendant, a’r glaswellt cwta fel cwrlid llyfn drostynt oll, cwrlid gwyrdd diwnïad. Tangnefedd, gorffwystra, ond nid marwolaeth, a’r brodyr yn cysgu’n dawel ynghyd yma, ymhell bell o swn y boen sy’n y byd.

Bedd gwraig sydd ar ei ben ei hun yn y pellter, a charreg wahanol ei ffurf iddo, ac ar orwedd,—‘Frances, widow of John Wootten, Esq. M.D. Died January 9, 1876’. Pam bedd gwraig mewn lle fel hyn, o bobman yn y byd, pa ddewin a wyr?

Dyma’r cyffyrddiad o wrthuni sydd yma, yr unig gyffyrddiad, dim ond braidd gyffwrdd, ond y mae’n gyffyrddiad,—gwraig yn gorwedd yma, a hefyd ei chadw draw yn bendant ac amlwg. Y ddau fedd sy’n wynebu’r lleill, beddau lleygwyr ydynt. Eithr pam eu hwynebu, a thraed yn erbyn traed? Eglurhad fy nghyfaill ar hyn, sy’n ffuretwr mor ddyfal, oedd mai dyna'r arfer,—y lleygwyr a’r offeiriaid yn wynebu ei gilydd, a thrwy hynny, yn yr atgyfodiad y dydd diwethaf, y bydd yr offeiriaid a’u cynulleidfa, yn yr act o godi, yn sefyll wyneb yn wyneb.

Y mae rhywbeth uffernol mewn Pabyddiaeth, a hefyd nefolaidd. Hi a greodd Gathrin de Medici a’i bytheiaid, na allai Gehenna ddychmygu eu hamgenach. Hi hefyd a greodd Ffransys o Assisi a’i ‘frodyr’, na allai Paradwys lunio prydferthach bucheddau. A gardd Paradwys i wyr lluddedig orffwyso ynddi yw hon. 0! na bawn yma yn y gwanwyn, i glywed yr adar yn canu, canys y mae’r gwrychoedd hyfryd‒wylItion hyn yn sicr o fod yn baradwys adar.

Mynd o garreg i garreg, i ddarllen yr enwau arnynt, a pharchedigaeth, fel awyrgylch taranau, yn pwyso’n drwm arnom. Cwbl ddieithr yw pob enw, Eithr beth yw hyn—yr ail garreg i’r dde, yn y rhes bellaf ond un, a dau enw ar y garreg, yr unig garreg â dau enw arni? Ar ran uchaf y cylch,—‘Ambrose St. John, Died May 24th, 1875’. A pheth yw hyn, ar draws y groes,—‘John Henry Cardinal Newman’, ac ar ran isaf y cylch,—‘Born Feb. 21, 1801. Died August 11th 1890.’ Sefyll, heb yngan gair, a syllu'n hir, a’r hud yn llethol, a’r symlrwydd huawdl yn fwy llethol na dim.

Ac yma, yn y tawelwch dwyfol hwn, y mae ei orweddfan ef, ymhlith ei frody. Yr enaid mawr, y sant mawr, y pregethwr mawr, a’i frwydrau enaid yn ysgytio a rhwygo'i Eglwys, —yma’n dawel, wedi’r brwydro a’r ymbalfalu hir, ac wedi derbyn y goleuni y bu'n crwydro gyhyd, mewn gwewyr enaid, i chwilio arndano. Dyma ef yn gorwedd, yn ôl ei ddymuniad ei hun, gyda chyfaill y frwydr a’r ymchwil. A pheth am y bedd hwn, yr agosaf ato? Hen gyfaill arall a wybu ei wewyr,—‘Edward Caswall. Died January 2, 1878.’ Wele ef, ynghanol ei hen gyfeillion, bellach yn wynebu'r dydd:

“Diau dy allu, a’m bendithiodd cyd,

A’m harwain i

Dros waun a rhos, dros graig a chenlli, hyd

Pan wawrio hi,

A’r engyl gyda’r wawr yn gwenu fo,

A gerais er ys talm, a gollais dro.”

O bopeth, y bedd rhyfeddol hwn, a’r fynwent ryfeddol hon, sy’n diddymu dychryn angau'n llwyr, fydd yr hyn a erys gyda mi tra fwyf, o’r daith hon, fel rhan o gynhysgaeth gyfoethocaf fy mywyd. Tybed a gaf gyfle i ddyfod yma yn y gwanwyn, i glywed adar yn canu uwch ei ben?

Dyma briod le adar yn canu.


Daw’r erthygl drawiadol uchod o’r llyfr, Gyda’r Hwyr, casgliad o gofion a gyflwnir “i’m hwyresau a’m hwyrion fel y gwypont am hen amserau”. Cyhoeddiwyd y gyfrol yn Lerpwl yn 1957 gan yr hen gwmni gynt, Gwasg y Brython.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyhoeddwyr, Gwasg Gomer, Llandysul, meddianwyr presennol yr hawlfraint, am roddi i ni ganiatâd i’w chyhoddi ar y rhwngrwyd yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Ganed yr awdur, mab chwarelwr, y Parchedig E. Tegla Davies (1880 – 1967) a adwaenir yn garuaidd yn Sir Ddinbych hyd heddiw fel ‘Tegla’. Daeth yn weinidog gyda’r Wesleaid ac ysgrifennodd lawer yn y Gymraeg ar gyfer oedolion a phlant.


English

The Green Dragon No 11

Books...

Hafan / Home