Gwenyn a Charolau



Gwenyn

Yr oedd gan fy mam hefyd, hithau ei storiau diddorol i’n boddio ni fel plant, pryd na byddai’n rhy brysur gyda gwaith y ty neu wedi blino gormod wrth olchi, llyfnu a thrwsio ein dillad!

Dihareb a glywid yn fynych ymhlith y boblach yw, "Gaeaf glâs wna fynwent frâs," ac fel awgrym o’i "gwiredd," arferai ’y mam ddweud stori led ryfedd am ddigwyddiad od yn ei hanes ei hun.

Byddai’r hen bobl‒a dyma stori fy mam‒yn arfer dweud bod y gwenwyn yn deffro o’u cwsg gaeafol ac yn dechrau canu mawl cyn toriad gwawr ar fore dydd Nadolig.

Ac un Nadolig, ar aeaf brâf eithriadol, galwodd ei thaid arni’n gynnar iawn i fyned gyda’i nain ac yntau a rhai gymdogion i’r ardd i glywed y gwenyn yn "canu mawl." A gorfu i’r wres fach fynd, ymron cyn ei bod wedi deffro‒ei thaid yn dwys‑arwain y cwmni bychan disgwylgar â chanwyll mewn hen "lantern gorn' (sef llusern hen ffasiwn â handle iddi).

Tra ’roedd pawb yn gwrando’n ddistaw wrth y cwch gwenyn, clywid yn sydyn, nid sû’r gwenyn, ond math o siffrwd mewn perthen ddrain o fewn ychydig droedfeddi iddynt, ac yna swn fel petai aderyn yn ehedeg allan o’r drysi. Daliodd ei thaid y "lantern gorn" fel ag i daflu ei goleuni gwantan ar y berth, ac ar unwaith beth a welodd fy mam (erbyn hynny wedi cyflawn ddeffro) ond nyth bronfraith ag ynddo bedwar o wyau gwyrddlas‒a hynny ar fore dydd Nadolig!

"Gaeaf glâs" oedd y gaeaf hwnnw. Cyn pen tair wythnos wedi’r digwyddiad rhyfedd hwn yng ngardd Rhôs Mari, hunai’r hen daid yn dawel gyda llawer o’i gyfoedion yn y fynwent hybarch gerllaw.

Carolau

Y mae cyfeirio at ddydd Nadolig yn naturiol yn ad‑ddwyn y meddwl yn ôl at hen arferion cysylltiedig â’r wyl honno. Diau bod llawer o bobl yn fyw eto sy’n cofio am Blygain a oedd mewn bri yn rhyw fan neu ei gilydd o Gymru yn amser eu hieunctid; ond, efallai, tybia rhai o’r tô newydd ymhlith fy narllenwyr presennol mai rhywbeth i’w wisgo, i’w fwyta, neu o leiaf i’w yfed, ydyw Plygain! Gwir ei fod yn gysylltiol â dydd Nadolig; ond nid gwisgo dillad newydd, nac ychwaith bwyta ac yfed mwy nag arfer, yw’r unig foddion i gadw enaid yn fyw hyd yn oed ar yr wyl fawr!

Ystyr y gair "plygain" yn ôl yr awdurdodau, ydyw "caniad y ceiliog," "toriad y dydd," "y wawr," ond yn fwy arbennig golyga weddi a mawl boreuol. Enw ydyw ar hen arferiad a oedd gynt yn boblogaidd yng Nghymru, yn enwedig o’r bymthegfed ganrif hyd ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adfywiwyd Plygain mewn rhannau o ogleddbarth y Dwysogaeth tua dechrau y ganrif bresennol; ond tagwyd yr arferiad, megis y tagwyd arferion diddorol eraill, yn ystod y Rhyfel Mawr.

Gwasanaeth ydyw‒neu ydoedd‒gwasanaeth canu carolau a gwneuthur math o joyful noise cyn toriad gwawr bore Nadolig. Pan oeddwn i’n blentyn, cofiai pobl oedrannus am y gwasanaeth carolau yn anterth ei ogoniant. Arferent gychwyn oddi cartref, meddent hwy, yn gynnar iawn ar fore dydd Nadolig er mwyn ymweled â rhyw hen eglwys blwyfol ymhell i fyny’r bryniau. Ymgasglai cwmpeini bychan mewn lle cyfleus, ac ar y ffordd yma a thraw byddai eraill yn eu disgwyl, nes pan gyrhaeddid yr eglwys byddai yno gant neu fwy o garolwyr. Ar ôl y gwasanaeth, y rheol oedd i deuluoedd a drigant yng nghyffiniau’r eglwys arlwyo’r carolwyr o bell â brecwast ardderchog; a gellir dychmygu fel y mwynheid y llaeth poeth, y bara haidd a ’menyn, yr wyau a’r bacwn, ar ô teithio milltiroedd trwy’r eira a chanu carolau ac emynau priodol i’r achlysur mewn hen eglwys oer a thrymllyd ei gwedd! Dyna fel yr oedd petrhe, medde nhw, yn yr hen amser.

Ymddengys, modd bynnag, fod pethau yn wahanol pan ddeuais i i’r byd! Cofus gennyf gerdded un bore Nadolig trwy eira dwfn, rhew tost, a thywyllwch dudew, dros ael Moel Hiraddug i Lan y Cwm er mwyn cymryd fy lle gyda’r carolwyr yn eglwys y plwyf‒lle na bûm ond unwaith byth o hynny hyd yn awr! Perthyn yr oeddwn i gôr plant capel y Marian, rhyw filltir neu ddwy o’r llan; a buom am wythnosau lawer yn dysgu carol newydd ar gyfer y Nadolig; on erbyn hyn ni chofiaf ddim ond tair llinell o’r garol honno‒

"Awn i Bethle’m, awn ynghyd,
Lle mae’r nefol gôr yno’n canu mawl
Uwchben y crud!"

Ond yr hyn ni ddiflanna byth o’m côf ydoedd blinder y daith a’r hèth mawr; ac O, fel y poenid fy nwylo noethion gan y "llosg eira" wedi i mi gyrraedd yr eglwys! A’r tro hwnnw‒sut bynnag y byddai pethau mewn amser blaenorol‒ni chlywais sôn am "frecwast ardderchog," ac ni welais un arwydd o ddim i’w fwyta hyd oni ddarfum ail‑droedio’r llwybr blinderus tua chartref drwy’r eira ar hyd llechwedd y Foel!

O’r llyfr, 'Hiwmor, Synnwyr a Halen', gan David Delta Evans, y ganed ei fam yn 1833.
Cyhoeddiwyd y llyfr hwnnw yn Llundain tua 1937
.



Nodyn:
Plygain: ymddengys i’r gwasanaeth unigryw hwnnw ddiflanu, bron iawn, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Credir iddo ddeillio o’r Offeren arbennig cyn torri’r wawr a geid yng Nghymru cyn y Diwygiad.
Daeth y gair ’plygain’, yn ô y gwybodusion, o’r gair Lladin pullicantus.
Ystyr y gair hwnnw yw caniad y ceiliog ben bore., neu, fel y’i ceir yn y gerdd, Yr ymweliad â Bethlehem, gan y Prifardd Alun Llwyd,
"wrth i’r ceiliog glochdar o’i glwyd ei gân blygeiniol."

Y Plygain yn Llanllyfni, Gwynedd, yn ein dyddiau ni

Saesneg / English

Gorgysylltiadau i'r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Christmas Box

Hafan