Brethyn Cartref

 

Chi sy’n cofio ‘Newyrth Dafydd,

Patriarch Felindre,

Rych chi’n cofio’n burion hefyd

Am ei frethyn cartre;

Aeth ei gôt yn hen heb golli

Dim o’r grân;

Roedd hi’n llwyd pan gas ei phannu:

Brethyn gwlân y defaid mân,

Dyna fel y gwisgai’r oes o’r blân.

 

Felly’r elai gynt i garu–

Yn ei frethyn cartre,

Ac ar fore ei briodi

Gyda Neli’r Hendre;

I ffair G’lamai a Chymanfa’n

Ddi–wahân,

’Run hen wisg a’r un hen Grefydd:

Brethyn gwlân y defaid mân,

Dyna fel y gwisgai’r oes o’r blân.

 

Gwelodd ‘Newyrth lawer ffasiwn,

Do yn enw’r annwl,

Ond effeithiodd ‘run ohonynt

Ddim ar ddillad ‘Nwncwl:

Ni freuddwydiai am wisg newydd

Mwy na’r frân,

‘Run hen dorrad yn dragywydd:

Brethyn gwlân y defaid mân,

Dyna fel y gwisgai’r oes o’r blân.

 

Gwisg o liain main a derw

Sydd amdano heno,

Ac mae’r awel yn yr ywen

Dan yr hon mae’n huno:

Ond mae’r defaid eto’n pori

‘Ngwlad y Gân,

Ac mae arnynt wlân yn tyfu:

Brethyn gwlân y defaid mân

Dyna fel y gwisgai’r oes o’r blân.


Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Hafan / Baile / Home