Canu Carolau Cymru yn yr Oes o’r Blaen.



Tua’r Nadolig byddai ieunctid Llanrwst yn sôn am fath ar ganu na chefais erioed brofiad ohono, er fy mod heddiw’n teimlo diddordeb yn yr alawon a’r geiriau a genid—y canu carolau.

Ddiwrnod neu ddau cyn Nadolig 1871, dywedais wrth fy mam: "Y mae Sam Robaits a John Pugh, ac amryw heblaw, yn mynd i’r Plygain ben bore Nadolig i ganu carolau. Ga’ i fynd hefo nhw?" "Na chei," oedd yr ateb pendant. "Pam?" gofynnais drachefn. "Am dy fod yn saffach yn dy wely," ebe hithau, "a dyna lawn ddigon." "Canu carolau fydd yno, ’Mam, ac y mae y rheini’n iawn." "O, ydynt, ond mi wn y bydd yno betha’ erill heblaw canu; mae’n well iti fod adra."

A dyna’r pam na fûm eriod mewn plygain. Erbyn meddwl, mi a sylweddolais mai testun siarad y bechgyn oedd, nid y canu, llawer llai yr addoli, ond yr hwyl a geffid gyda rhai o’r merched ar y daith—yn y tywyllwch—i Landdoged ac yn ôl.

Ond yr oedd mwyafrif y rhai hyn yn cymryd y gorchwyl o ganu a chofio’r geni o ddifrif. Byddai rhigymwyr lleol, a rhai clochyddion a phersoniaid, yn cyfansoddi carolau newydd ar gyfer pob Nadolig; ac unawdwyr a phartion lleol yn eu dysgu; ac yn aml byddai cryn gydymgais rhwng y cantorion a’i gilydd. Clywais fy nhad yn dweud y byddai rhai eglwysi’n llogi canwyr carolau o gymdogaethau eraill, ac yn talu am eu gwasanaeth. Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau.

J. Lloyd Williams (1854‑1945): Atgofion Tri Chwarter Canrif, o’r detholiad, Y Flwyddyn yng Nghymru, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1943.



Nodyn:
Plygain: ymddengys i’r gwasanaeth unigryw hwnnw ddiflanu, bron iawn, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Credir iddo ddeillio o’r Offeren arbennig cyn torri’r wawr a geid yng Nghymru cyn y Diwygiad.
Daeth y gair ’plygain’, yn ô y gwybodusion, o’r gair Lladin pullicantus.
Ystyr y gair hwnnw yw caniad y ceiliog ben bore., neu, fel y’i ceir yn y gerdd, Yr ymweliad â Bethlehem, gan y Prifardd Alun Llwyd,
"wrth i’r ceiliog glochdar o’i glwyd ei gân blygeiniol."

Y Plygain yn Llanllyfni, Gwynedd, yn ein dyddiau ni

English / Saeneg

Gaeilge / Gwyddeleg

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Christmas Box

Hafan