Carreg yr Offeren

 

Wrth droedio hyd yr heol a'r haul yn y wybren las,

Fe welais encil llwyni gydag afonig yn canu bas,

Rhyw fath o gwn oddeutu a llethr yn estyn fry,

Roedd awel yn anwylo popeth a chododd y frân ei chri.

 

Hen ŵr a elai heibio, fe synnais ar ei wedd,

Arwydd y Grog a wnâi gydag ystum un mewn hedd,

Dywedodd i mi'r stori am y gilfach ac am y werin

A ddeuai i'r glyn hwnnw ac i'r 'Carreg yr Offeren'.

 

“Yn y ddeunawfed ganrif tra'r oedd gwahardd ar ein ffydd

Ni chafwyd nac eglwys nac allor nac esgob na chlochydd,

Ond yr oedd yno offeiriaid mewn dillad crwydriaid tlawd

A ddeuai i'r fangre honno ar brydiau yn eu rhawd.”

 

“O dan y llwyni acw y mae carreg fel estyllen lefn,

Fe ddeuai 'crwydrfyn' rhywdro gyda bwndel ar ei gefn.

Fed glywai pawb y neges a chyrchai i'r fan hon:

Yr hen, y llesg, yr ifainc, y babanod ar y fron.”

 

“Pan agorid y bwndel hwnnw fe welai pawb drwy ias

Y dillad Offeren nobl, yn  wyn, yn goch, yn las,

A'r cwpan Cymun syml a'r afrlladennau cain,

Trugareddau annwyl crefydd ar garreg lefn fain.”

 

“A felly bu'r Offeren, dan awyr wyn ein Duw,

Heb na theml nac adedilad ond calonnau'r werin wiw.

Bu'r llanciau, heb arf ond dewrder, yn gwarchod ar ben y cwm,

Rhag ofn y cotiau cochion a'u drylliau a chleddyfau llwm.” 

 

Barry Tobin, 20 Awst, 1994.

Nascanna don Ghaeilge / Links to Irish / Gorgysylltiadau i’r Wyddeleg.

Hafan / Home / Baile.