Seremoni Gysegru Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr



Codwyd y gofeb i holl ddioddefwyr Newyn Mawr Iwerddon (1845–1849). Cofeb hefyd ydy hon i bob unigolyn o dras Wyddelig, heb wahaniaethu ar sail dosbarth, gweidyddiaeth, teyrngarwch neu grefyd, a fu farw erioed yng Nghymru.

Rhoddwyd yn hael, gan gwmni Caerdydd Mossfords, cerflunyddion cofgolofnau ers 1821, groes fawreddog a wnaethpwyd yn Iwerddon o garreg galch Wyddelig. Fe’i chodwyd ar sylfaen o gerrig Cymreig ym Mynwent Cathays ar safle amlwg a ddarpariwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd.

Dadorchuddwyd y gofeb yn ystod seremoni ffurfiol am 11.00 o'r gloch ar fore dydd Mercher 17 Mawrth, 1999, Dydd Gŵyl Padrig Sant, o flaen cynrychiolwyr y ddinas, yr eglwysi a’r wladwriaeth.

Yr olaf mewn rhaglen o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Fforwm Cymru y Newyn ers 1995 er mwyn nodi 150 o flynyddoedd ers Y Llwgfa Fawr a laddodd o leiaf miliwn o bobl oedd y seremoni oedd hwn.

Er mai’r werin Gatholig dlawd heb dir yn y de a’r gorllewin a siaradai’r Wyddeleg oedd prif ddioddefwyr y newyn ni chafwyd na sir nac enwad na dosbarth cymdeithasol neu wleidyddol na chladdodd eu meirw yn ystod y drychineb erchyll honno. Ar ben hynny gorfododd y newyn tua dwy filiwn o bobl i geisio am loches mewn mannau eraill yn y byd.

Ymysg y rhain yr oedd miloedd a laniodd yng Nghymru. Erbyn yr 1860au cafwyd tua 73 getoau Gwyddelig yng Nghaerdydd yn unig. Daeth pobl Wyddelig hefyd i drefi eraill a ddatblygai’n chwyrn megis Abertawe, Bargoed, Caerffili, Casnewydd, Dowlais, Llanelli, Maesteg, Merthyr Tudful, Penybont‒ar‒Ogwr a Phontypridd yn ogystal â’r Rhondda a chymoedd glo eraill ym Morgannwg a Mynwy. Dechreuodd gwladfeydd Gwyddelig ymffurfio hefyd yng ngogledd a gorllewin y wlad.

Mae’r bobl honno i gyd, gwyr, gwragedd a phlant, ynghyd a’u trychinebau personol, eu crefydd, eu harwriaeth, ac eu dyfal barhad yn rhan o’n hanes ni gymaint ac yr ydym ni'n rhan o’u hanes nhw. Wrth eu hanrhydeddu nhw yr ydym yn ein hanrhydeddu’n hunain ac wrth eu cofio nhw yr ydym yn sicrhau y byddym ni yn ein tro yn cael ein cofio gan y sawl a gymer ein lle yng Nghymru ac yn Iwerddon y mileniwm newydd.

Bu'r cynllun syml yn cynnwys arysgrifau mewn pedair iaith fel a ganlyn:

1) Pedwar plac ar y pedair ochr o sylfaen y Gofeb. Ar y placiau hyn, a wnaethpwyd o lechi Cymreig, ceir arysgrifau yn Saesneg, yn y Gymraeg, yn y Wyddeleg ac yn Lladin:

Yn Saesneg:

In memory of the victims of the Great Famine in Ireland, 1845 – 1849, and of all Irish people and their descendants who have died in Wales.

May they rest in peace.

Yn y Gymraeg:

Er cof am y rhai a ddioddefodd yn Newyn Mawr Iwerddon, 1845 – 1849, a’r holl Wyddelod a’u disgynyddion a fu farw yng Nghymru.

Heddwch i’w llwch.

Yn y Wyddeleg:

I gcuimhne orthu siúd a d’fhulaing le linn Ghorta Mór na hÉireann, 1845 – 1849, agus ar na hÉireannaigh go léir is a sliocht a fuair bás sa Bhreatain Bheag.

Ar Dheis Dé go raibh a n–anamacha is anamacha na marbh.

Yn y Lladin:

In memoriam victimarum Famis Magnae in Hibernia A.D. MDCCCXLV – MDCCCXLIX atque Hiberniensium omnium cum prole sua in Cambria sunt mortui.

Requiescant in pace.

2) Ochr yn ochr ar wyneb wastad y Groes Geltaidd:

Yn Saesneg:

During the years 1845 – 49 the potato crop in Ireland failed, a million people perished and almost twice as many fled their homeland. Thousands of refugees arrived in Wales. This memorial, erected by their descendants with the support of generous friends, is for them.

Yn y Gymraeg:

Yn y blynyddoedd 1845 – 49 pallodd y cnwd tatws yn Iwerddon, trengodd miliwn o bobl a ffôdd bron i ddwyfaint mwy oddi cartref. Daeth miloedd o ffoaduriaid i Gymru. Trostynt hwy y cododd eu disgynyddion y gofeb hon gyda chymorth cyfeillion hael.

Rhaglen y Seremoni Ddadorchuddio a Chysegru:

1. Anerchiad Croesawi: John Sweeney, Cadeirydd, Fforwm Cymru y Newyn.

2. Darlleniad yn y Wyddeleg: Amhrán na bPrátaí Dubha gan Máire Ní Dhroma, An Rinn, Swydd Waterford.
Yn darllen: Conor O'Riordan, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru.

3. Unawd yn y Wyddeleg: Ag Críost an Síol,hen emyn i Grist.
Y Gantores: Eithne O’Brien.

4. Darlleniad yn y Gymraeg: Biaffra gan y Prifardd Dafydd Rowlands.
Yn darllen: Mary Sullivan, Cadeirydd Cymdeithas Newtown, Caerdydd.

5. Unawd yn y Gymraeg: Myn Mair, hen emyn i’r Forwyn Fair.
Y Gantores: Mared Whelan.

6. Darlleniad yn Saesneg: ddiweddglo’r stori fer The Dead gan James Joyce.
Yn darllen: Tom McGarry, Llywydd Cymdeithas Wyddelig Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd.

7. Bendithio a chysegru’r Gofeb: gwasanaeth eciwmenaidd a arweiniwyd gan gleregwyr o eglwysi amrywiol Cymru.

8. Gosodwyd torch o flodau wrth droed y Gofeb gan Jon Owen Jones AS, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig, ar y cyd gyda Phrif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, Mr. Conor O’Riordan.

9. Sylwadau gan Tyrone O’Sullivan, Cadeirydd, Pwll y Tŵr, Hirwaun.

10.Munud o ddistawrwydd.

11. Emyn: Hail Glorious St. Patrick, wedi’i gyflwyno gan Seán Mac Réamoinn o Ddulyn.

Meistr y Ddefod: Chris Daly, gŵr sydd i’w weld fel arfer yn Feistr y Defod wrth i brif Offeren y Sul gymryd lle yng Nghadeirlan Gatholig Dewi Sant, Heol Siarls, Caerdydd.

Sylwer 1:
Bu farw cannoedd o filoeddyn yn anhysbys heb na bendith na phader na bedd na pharch yn ystod y newyn yn Iwerddon. Eu hangladd nhw, felly, oedd y seremoni hon.

Sylwer 2:
Cyn y seremoni gysegru dathlwyd Offeren arbennig (yn Saesneg) yn Eglwys Gatholig Joseff Sant, Heol Seland Newydd, Cathays gan y Tad S.F. Marriott, Offeiriad y Plwyf.

English

Gaeilge



Ers i’r Gofeb gael ei datguddio a’i chysegru trefnwyd / trefnir seremoni o’i blaen unwaith y flwyddynar benblwydd y seremoni gyntaf hon fel a ganlyn:

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2000

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2001

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2002

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2003

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2004

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2005

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2006

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2007

Dydd Gŵyl Padrig Sant 2008

The Great Famine Remembered in Cardiff, Wales

Home / Abhaile / Hafan