Ceraist ti grwydro gwlwdydd pellenig,—
Y gwlwdydd sy ‘mhell tros y don;
Weithiau dychwelit i’th gartre mynyddig
A’th galon yn ysgafn a llon.

Gwelsom di ennyd cyn dychwel ohonot
I’r rhyfel sy’n crynu y byd;
Nodau y gwlatgar a’r beiddgar oedd ynot,
Y nodau sy’n costio mor ddrud.

Fe chwyth y corwynt tros fryniau Trawsfynydd
O’th ôl fel yn athrist ei gainc;
Tithau yng nghymni’r fataliwn ddi-hysbydd
Sy’n cysgu’n ddi‑freuddwyd yn Ffrainc.

Hedd Wyn (1887–1917).

Yn y Wyddeleg / sa Ghaeilge




Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Hafan