Dydd Llun 5 Awst.
Dr. Diarmait Mac Giolla Chríost: ‘Cynllunio Iaith: Cyfnewid Celtaidd Cyfoes?’
(un o Derry yng Ngogledd Iwerddon, siaradwr Gwyddeleg, a chyn‑ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Ar hyn o bryd yn gweithio i Gyngor Sir Gaerfyrddin yn Adran y Prif Weithredwr fel cydlynydd polisi corfforaethol gyda chyfrifoldeb arbennig dros bolisi iaith Gymraeg)
Cadair: Y Bonheddwr Cynog Dafis, AC.
Cyn i’r ddarlith hon ddechrau lansiodd y Bonheddwr Jim Carroll, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, y gyfres gan siarad yn yr iaith Wyddeleg.
Cafodd ei sylwadau eu cyfiethui’r Gymraeg ym mlaenllaw a’i darllen gan y Cadeirydd.
Dydd Mawrth 6 Awst.
Dr. Dewi Evans, Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Dulyn: ‘Teithwyr a Dylanwadwyr’.
Y materion y gobeithiaf eu trafod yw: Gerallt Gymro (amhosibl ei osgoi a ninnau yn Nhŷ Dewi); Edward Llwyd; Llyfrau Cymraeg yn trafod Iwerddon;
Llyfrau Gwyddeleg yn trafod Cymru; Ar ôl hynny mae braidd yn niwlog! Ond efallai tipyn o sôn am Saunders Lewis a T. Gwynn Jones. Roeddwn wedi meddwl trafod ambell beth lle y credaf y gallai’ r ddwy wlad ddysgu oddi wrth y llall, ond prin y bydd amser i hynny i gyd.
Cadair: Y Tad John of the Cross Fitzgerald, O.Carm., Caplan y Brifysgol, Aberystwyth.
Dydd Mercher 7 Awst.
Y Tra Parchedig J. Wyn Evans, Deon T ŷ Dewi : ‘Saint a Chenhadwyr’
Cadair: Y Canon Pádraig Ó Fiannachta, Offeiriad y Plwyf, An Daingean, Swydd Ciarraí, Iwerddon.
Treuliodd y Canon Pádraig Ó Fiannachta, sydd yn rhugl yn y Gymraeg, flynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Maynooth. Ei gamp mwyaf yno, hwyrach, oedd ei gyfieithiad o’r Beibl i’ r Wyddeleg. Roedd ei gyhoeddi yn gyfrol hardd i ddechrau ac yn gryno ddisg yn nes ymlaen yn garreg filltir yn hanes yr iaith.
Trefnwyr:
Fóram na Breataine Bige um an nGorta / The Wales Famine Forum / Fforwm Cymru y Newyn, Elusen Cofrestredig Rhif: 1057587.
Cathaoirleach / Chairman / Cadeirydd: John Sweeney
Cisteoir / Treasurer / Trysorydd: Joe Moore
Rúnaí / Secretary / Ysgrifennydd: Barry Tobin: 029 20916146
Preas; Poiblíocht / Press; Publicity / Gwasg; Cyhoeddusrwydd : John O’Sullivan : 029 20615147