Y Br. Martin Culliford: Y Siartwyr ac Iwerddon.
Roedd yna Wyddelod ymysg y siartwyr arfog, ac hefyd ymysg aelodau’r fyddin a’u heriodd yn Sgwâr John Frost, Casnewydd, yn 1839.
Cadair: Paul Flynn, A.S.
Athro mewn ysgol gyfun ar gyffiniau Casnewydd a hanesydd yw Martin a ddaeth o Loegr a dysgu’r Gymraeg.
Cyflwyniad i’r gyfres i gyd ac i’r ddarlith hon gan Barry Tobin, Fforwm Cymru y Newyn.
Un erthygl ar ddeg (yn Saesneg) ar y wefan hon yn trafod hanes y Gwyddyl yng Nghasnewydd, Mynwy a Gwent.
***************
2. Mercher 4 Awst, Pabell y Cymdeithasau, 1.00 – 2.00 o'r gloch.
Y Br. John Iorwerth Davies: Pat O’Brien, Arweinydd Eisteddfodau.
Roerdd Edward David (‘Pat’) O’Brien (1910 – 1953), yn fab i Wyddel a
ddiflannodd
mewn amgylchiadau aneglur wedi priodi’r fam, Cymraes o’r hen Sir Drefaldwyn.
Roedd ‘Pat’ yn ysgolfeistr, arweinydd cyngherddau, beirniad eisteddfodol ac yn
gymeriad amlwg.
Cadair: Barry Tobin.
Llyfrgellyd cyhoeddus blaengar a llyfrydd profiadol yw Iorwerth Davies a aned yn yr hen Sir
Drefaldwyn.
Cyhoeddwyd ei lyfr, Pat O’Brien 1910 – 1953,
gan Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys yn 2003.
Fe aeth allan o brint yn fuan wedyn ond trefniwyd ei ailargraffu mewn pryd i’r
eisteddfod.
Cyflwyniad y Cadeirydd.
3. Gwener 6 Awst, ‘Y Stiwdio’, 1.00 – 2.00 o'r gloch.
Y Fes. Elinor Bennett: Datblygu Perthnasau Diwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Hanes yr ymdrechion a wnaethpwyd yn Abergwaun gan Myles Pepper a’i gefnogwyr (gan gynnwys Elinor ei hun) yn ArtsWavei ddathblygu cysylltiadau parhaol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Cadair: Lenna PritchardJones.
Mae Elinor yn delynores o fri yng Nghymru a thu hwnt.
Cyflwyniad i’r ddarlith hon gan Barry Tobin.
Y Gwyddyl yn Sir Benfro yn yr ail ganrif ar bymtheg
(Erthygl yn Saesneg)
Dwy law yn cydio’n dawel, a dwy law'n
dal dwy wlad yn ddiogel,
y ddwy yn dal, doed a ddêl,
’run gwir ar yr un gorwel.
Cadeirydd: John Sweeney.
Trysorydd: Joe Moore.
Ysgrifennydd/Gwasg/Cyhoeddusrwydd/ymholiadau yn Saesneg:
John O’Sullivan (029 20615147/ jossernews@ntlworld.com).
Ymholiadau yn y Gymraeg: Barry Tobin (02920916146 / masseytown@yahoo.ie).
The Irish Famine: Wales Famine Forum