Ffordd i’w Chofio
Newyn, Tir a Masnach Teg
Wrth i AfrI (‘Action from Ireland’) barhau i gofio 150 penblwydd Newyn Mawr
Iwerddon lle roedd perchnogaeth tir a rheolaeth tir yn materion allweddol, archwiliwn hwn, ynghyd ag
achos tebyg o berchnogaeth tir a masnach yng Nghanol America heddiw, yn ein Taith Gerdded y Newyn 1996.
Mae’n bleser o’r mwyaf i ni gael Marciana Funez o Belize fel un o arweinwyr y
daith. Bydd hi’n dweud wrthym ei phrofiadau o weld monopoleiddio tir yn digwydd yn Belize.
Bydd hi hefyd yn esbonio sut mae hgi i fod ar ben arall cyfundrefn fasnach lle mae cynyddu elw
i’r eithaf yw’r prif gymhelliad. Gwraig eithriadol o ddewr yw Marciana a wynebodd rym
cwmni amlwladol. Mae’n aelod sylfaen o Undeb Baneri Unedig y Gweithwyr Banana a chafodd ei
henwi yn Berson y flwyddyn yn ddiweddar gan bapur newydd Amandala, papur wythnosol mwyaf
Belize.
Ond Marciana Funez o Belize ydoedd a ddaeth a’r ddadl i’r presennol drwy
amlinellu sefyllfa gweithwyr ffermydd banana yn ei gwlad, a’r cwmni amlwladol Gwyddelig,
Ffyffes, yn brif chwareuwr ar y ffermydd hyn. Apeliodd am hawl i’r gweithwyr ymuno ag Undeb
Baneri Unedig y Gweithwyr Banana a gofynnodd am roi sylw di-oed i amodau gwaith yno. Apeliodd hefyd
am gefnogaeth y cyhoedd yn Iwqerddon i gyrchu’r nodau hyn. Cedwir cysylltiad ar y ddadl hon ac
mae pwysau rhyngwladol yn cynyddu er cydnabod yr undeb.
Cafwyd y ddarn uchod gan Joe Murray, Trefnydd yr elusen Wyddelig, AfrI (‘Action from
Ireland’).
Cyfiethiad ©: Julia Burns.
Y Ddraig Werdd, Rhifyn 2
Hafan