E = MC2



Yng ngardd bêr y goleuni
clywir sïo’r clêr, hoenus a di‑hid.
Ar ben hynny cewch weled,
ym mhig y wennol fach wisgi,
fel a driga’r gacynen wyllt mewn poen.

Yng ngardd ddi‑liw y tywyllwch
ni chlywir na rhuthr na ffoi’r ysglyfaeth,
na ni chlywir dannedd miniog y ddraenog,
na cri’r falwoden y mae’r rhain yn ei chnoi.

Wedi i’r Ffrwydriad Mawr, tân gwyllt y Creawdwr,
danio dan chwistrellu goleuni ar wibdaith ddiderfyn,
fe’m ganed yn annhymorol a dechreuais wylofain
fel baban yn crio am ddiden y fam.

Do, fe’m ganed mewn ton fach goleuni ar ei hynt,
yn grwydryn coll hyd oesoedd yr angylion,
nes i mi lanio mewn croth glyd ddihafal.

Yna, gwingo mewn limbo am fisoedd
nes cyrraedd y ddiden dan grio gorfoledd.

A than grio’n wylofus y caf fyned i’r fagddu,
tra’n gobeithio y caf weled fy rhieni mud,
tra’n gobeithio y caf weled y Goleuni,
tra’n ofni na chaf weled dim byd.

Eithr erys ebychiad euraid Einstein,
ynte’n Iddewig un o epil etholedig Duw,
gŵr a rydd oleuni wrth hynt yr hollfyd
fel a wnâi Plotinus yr athronydd yn ei ddydd.

Ymgysuraf felly rhag fraw y fagddu
a ddaw ar derfyn fy myd,
a ddaw â gweddi ar derfyn fy ffydd.

Rho i mi felly dy gredo diderfyn caredig,
ymbiliaf, O Dduw.


Barry Tobin, 13 – 16 Ebrill, 2007.


Ydy, mae’r wennol yn dal ac yn bwyta’r gacynen ac, ar ben hynny, yn ei bwydo i’w chywion hi!
(gweler: http://www.birdsofbritain.co.uk/bird-guide/swallow.asp)


Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Hafan