Gwreiddiau


Cerdd y Goron 2003




a’r pren ar y bryn
a’r bryn ar y ddaear
a’r ddaear
ar ddim

Unwaith, amser maith a mwy yn ôl,
i fyd yn llawn dyfodol,
fe aned mewn dwy fynwes
un wên fach –
a hynny ar hap.

A heb yn wybod,
plannwyd hedyn
o ryfeddod
mewn dwy galon.

Daeth yn sydyn,
mas o ddim,
i fwrw’i wreiddyn.

Ac un diwrnod,
heb ofyn,
daeth blaguryn

yn fory i gyd . . .

unwaith, amser maith a mwy yn ôl.

* * *

Fesul brigyn
mae aderyn
yn troi’r bore oer
yn gartre braf,

fesul deilen, fesul pluen
casgla’n gymen
ddodrefn ei ddychymyg
â blaen ei big,

fesul curiad
caria furiad
ei fyd bychan
mewn nodau mân:

‘Dere ‘da fi i’r man rhwng nos a dydd,
lle mae’r haul a’r lloer yn wên,
lle mae serch y sêr yn llên,
lle ‘dyw’r stori fyth yn hen.

Dere ‘da fi i’r man rhwng camau’r ddawns,
lle mae pob pluen yn gân,
lle mae’r mwswg yn felfed glân,
lle mae’r gorwel yn gweld y gwir.

Dere ‘da fi i’r man
uwchlaw’r byd
i chwilio’r bwlch sy’n nef i gyd –

ffeind a braf yw’r man
lle cawn rannu’r cyfan.’

Fesul nodyn
mae aderyn
yn denu câr
â swyn trydar.

A than gawod o gonfetti,
yn betrus i’r brigyn bregus,
hedfanodd hon i nyth ei galon,
at addewidion.

Yn dyner bu’r adenydd ar fenter ofalus
yn gwthio’r dydd oddi tani
i’w chodi.

Yn gadarn bu’r hedyn cynnar
yn bwrw’i wraidd i ddyfnder daear
a chwilio maeth
i’w chadw.

I’w chadw, a’i chynnal, a’i chodi
yn uwch ac yn uwch ar ei thaith,

ac unwaith, amser maith a mwy yn ôl,
daeth aelwyd newydd
i swatio rhwng canghennau’r
goeden dragywydd.

* * *

Yna, rhywbryd rhwng nawr a chynt,
yn rhywle rhwng y gwyrdd a’r glas, ar ras y gwynt,
i’r nyth daeth cyw;
a chyda’r cyw, daeth y byd i gyd i glwydo
o dan ei hadenydd llonydd.

Roedd dyddiau’r hedfan, i hon,
mwy mewn rhyw fan rhy frith i gofio.

Ac o hyd, tyfodd y gwreiddiau mud,
wrth iddi aros yng ngwres y mwswg clyd,
i ddysgu’r un bach
beth oedd beth yng ngardd y byd.

* * *

Ond canu’n iach ar adain chwim
wnaeth ei chymar, a dwyn ei drydar
a siâr ei gariad yn ddall i fan arall,

ac yn rhuthro’r tymhorau,
llithrodd nef y ddau i ryw ddoe,
gwelwodd y man gwyn hwnnw
mewn gwanwyn a haf –
ac aeth ar goll rhwng dau aeaf,

y man
cyn i’r haul liwio’r hydref,
cyn y glawio’n nwfn y galon oer,
cyn bod llafn ym mhob defnyn
yn hollti’r gwyn
yn enfys rhy hawdd i’w dilyn,

y man ffeind a braf
lle cynt ni fentrai brain nac adar brith,
yr unman,
yr unlle hwnnw,
lle ddoe yr hedfanai unwaith
ddau o’r unlliw ar yr un daith.

* * *

Mor wag yw nyth sy’n magu nos
a dim ond breuddwyd yn aros,
mor wag yw aelwyd sy’n magu alaw
a dim ond sibrydion mewn llaw,

mor wag yw’r dweud sy’n magu dig,

mor wag yw calon sy’n magu celwydd,

mor unig yw magu dim ond enw.

* * *

â basged o dan ei braich
mae’n agor y drws
i gofleiddio’r dydd
â glendid

gwyn, gwyn, gwynnach na gwyn,

mae’n cuddio’r cloddie â chelwyyde’r
cynfase glân
ac offrymu’r dillad mân
yn aberth ar allore’r llwyn,

yna’n ofalus,
mae’n crogi’r cryse ar y lein
a’u gollwng i’w cannu’n wyn,
gwynnach na gwyn, dan las y nef,
lle mae maddeuant
mor feddal â sebon
yn perarogli awelon yr ardd,

a chyda bysedd coch ei dwylo garw,
mae’n tynnu’r rhaff yn araf
a chodi un faner wen i fyny i’r haul,

gwyn, gwyn, gwynnach na gwyn.

Ac o hyd,
dim ond gwich y weithred hon
sy’n tarfu ar ddistawrwydd y ddefod fud.

* * *

Yna, mewn man‑draw agos . . .

yn seiat y saith pioden
mae siffrwd sibrydion syn,
ac o bulpud gwyrdd eu cangen
mae’r byd yn fwy du na gwyn;
un pregethwr a chwe decon
blith y dail mewn gweddi gras
yn galaru am drallodion
y pechadur penna’i mas;
yng nghyfrinach fawr eu cymun
clywir crawcian am y tad,
cyn ledio geiriau’r emyn –
golch e’n burlawn yn y gwa’d;
cans ar allor pren y pïod
du yw’r bara, du yw’r gwin,
am na fyn yr un adnabod
lliw mor goch yw ei waed ei hun;

wrth i leisiau’r chwe phioden
borthi’r bregeth o’r sêt fawr,
chwythodd ei gweddi fach ar bluen –
rwyf d’eisiau di bob awr.

* * *

Ac yn y dyddiau hynny,
rywbryd wedi cymanfa’r pïod,
fe wyddai fod diwedd yr haf wedi dod.

Daeth amser casglu’r olch,
a gollwng y faner a’i gwynder i gyd,
a gwisgo balchder ei gwên,
yn wyn, wyn, gwynnach na gwyn,
rhag bryntni’r byd.

* * *

Heb adenydd o hyd,
dala’n dynn
wnaeth cwlwm y gwreiddiau mud,
gan gynnal ei gwên o ddistawrwydd,
a’i stori drist yn bennod o seibiannau –
dyna i gyd.

Ac yn wir, yn wir,
arhosodd yn ei gofid
ar y goeden dragywydd
drwy’r nos a’r dydd
a’r gaeafau hir,

a heb hidio am sibrydion saith pioden
rhoddodd ei hwylo i guddio mewn gwên,

ac yn y wên hon roedd yna gân
yn cronni ei dagrau mewn nodau mân,
yn barod i’w harllwys yn wlith
un bore, heb eiriau, ar ei galon –
a’i loywi’n lân:

‘Dere ‘da fi nôl i’r man,
lle mae fy nghalon i yn dân,
lle cawn eto rannu’r cyfan,

y man ffeind a braf
mewn gwanwyn a haf
rhwng dau aeaf.’

Ac un diwrnod, â’i gwên yn dal ynghynn,
fe ddaeth e’ nôl i’r man gwyn,
i’w gwylio hi’n glawio’i henaid
i dawelwch y llwch a’r llaid,

daeth a’i dal a’i chynnal,
mewn un ochenaid ysgafn,
cyn disgyn
yn ddau,
fel deilen, fel pluen,
un bore aur heibio i’r haf,
i wely yr aelwyd olaf,

dan y pren
ar y bryn
ar y ddaear
ar ddim.

‘Llasar ’ (ffugenw Mererid Hopwood yn yr eisteddfod).

Gwyddeleg / Gaeilge




Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh

Hafan / Home / Baile.

Mererid Hopwood: Gwreiddiau – Cerdd y Goron 2003

Mererid Hopwood: Gwreiddiau
Cerdd y Goron 2003




a’r pren ar y bryn
a’r bryn ar y ddaear
a’r ddaear
ar ddim

Unwaith, amser maith a mwy yn ôl,
i fyd yn llawn dyfodol,
fe aned mewn dwy fynwes
un wên fach –
a hynny ar hap.

A heb yn wybod,
plannwyd hedyn
o ryfeddod
mewn dwy galon.

Daeth yn sydyn,
mas o ddim,
i fwrw’i wreiddyn.

Ac un diwrnod,
heb ofyn,
daeth blaguryn

yn fory i gyd . . .

unwaith, amser maith a mwy yn ôl.

* * *

Fesul brigyn
mae aderyn
yn troi’r bore oer
yn gartre braf,

fesul deilen, fesul pluen
casgla’n gymen
ddodrefn ei ddychymyg
â blaen ei big,

fesul curiad
caria furiad
ei fyd bychan
mewn nodau mân:

‘Dere ‘da fi i’r man rhwng nos a dydd,
lle mae’r haul a’r lloer yn wên,
lle mae serch y sêr yn llên,
lle ‘dyw’r stori fyth yn hen.

Dere ‘da fi i’r man rhwng camau’r ddawns,
lle mae pob pluen yn gân,
lle mae’r mwswg yn felfed glân,
lle mae’r gorwel yn gweld y gwir.

Dere ‘da fi i’r man
uwchlaw’r byd
i chwilio’r bwlch sy’n nef i gyd –

ffeind a braf yw’r man
lle cawn rannu’r cyfan.’

Fesul nodyn
mae aderyn
yn denu câr
â swyn trydar.

A than gawod o gonfetti,
yn betrus i’r brigyn bregus,
hedfanodd hon i nyth ei galon,
at addewidion.

Yn dyner bu’r adenydd ar fenter ofalus
yn gwthio’r dydd oddi tani
i’w chodi.

Yn gadarn bu’r hedyn cynnar
yn bwrw’i wraidd i ddyfnder daear
a chwilio maeth
i’w chadw.

I’w chadw, a’i chynnal, a’i chodi
yn uwch ac yn uwch ar ei thaith,

ac unwaith, amser maith a mwy yn ôl,
daeth aelwyd newydd
i swatio rhwng canghennau’r
goeden dragywydd.

* * *

Yna, rhywbryd rhwng nawr a chynt,
yn rhywle rhwng y gwyrdd a’r glas, ar ras y gwynt,
i’r nyth daeth cyw;
a chyda’r cyw, daeth y byd i gyd i glwydo
o dan ei hadenydd llonydd.

Roedd dyddiau’r hedfan, i hon,
mwy mewn rhyw fan rhy frith i gofio.

Ac o hyd, tyfodd y gwreiddiau mud,
wrth iddi aros yng ngwres y mwswg clyd,
i ddysgu’r un bach
beth oedd beth yng ngardd y byd.

* * *

Ond canu’n iach ar adain chwim
wnaeth ei chymar, a dwyn ei drydar
a siâr ei gariad yn ddall i fan arall,

ac yn rhuthro’r tymhorau,
llithrodd nef y ddau i ryw ddoe,
gwelwodd y man gwyn hwnnw
mewn gwanwyn a haf –
ac aeth ar goll rhwng dau aeaf,

y man
cyn i’r haul liwio’r hydref,
cyn y glawio’n nwfn y galon oer,
cyn bod llafn ym mhob defnyn
yn hollti’r gwyn
yn enfys rhy hawdd i’w dilyn,

y man ffeind a braf
lle cynt ni fentrai brain nac adar brith,
yr unman,
yr unlle hwnnw,
lle ddoe yr hedfanai unwaith
ddau o’r unlliw ar yr un daith.

* * *

Mor wag yw nyth sy’n magu nos
a dim ond breuddwyd yn aros,
mor wag yw aelwyd sy’n magu alaw
a dim ond sibrydion mewn llaw,

mor wag yw’r dweud sy’n magu dig,

mor wag yw calon sy’n magu celwydd,

mor unig yw magu dim ond enw.

* * *

â basged o dan ei braich
mae’n agor y drws
i gofleiddio’r dydd
â glendid

gwyn, gwyn, gwynnach na gwyn,

mae’n cuddio’r cloddie â chelwyyde’r
cynfase glân
ac offrymu’r dillad mân
yn aberth ar allore’r llwyn,

yna’n ofalus,
mae’n crogi’r cryse ar y lein
a’u gollwng i’w cannu’n wyn,
gwynnach na gwyn, dan las y nef,
lle mae maddeuant
mor feddal â sebon
yn perarogli awelon yr ardd,

a chyda bysedd coch ei dwylo garw,
mae’n tynnu’r rhaff yn araf
a chodi un faner wen i fyny i’r haul,

gwyn, gwyn, gwynnach na gwyn.

Ac o hyd,
dim ond gwich y weithred hon
sy’n tarfu ar ddistawrwydd y ddefod fud.

* * *

Yna, mewn man‑draw agos . . .

yn seiat y saith pioden
mae siffrwd sibrydion syn,
ac o bulpud gwyrdd eu cangen
mae’r byd yn fwy du na gwyn;
un pregethwr a chwe decon
blith y dail mewn gweddi gras
yn galaru am drallodion
y pechadur penna’i mas;
yng nghyfrinach fawr eu cymun
clywir crawcian am y tad,
cyn ledio geiriau’r emyn – golch e’n burlawn yn y gwa’d;
cans ar allor pren y pod
du yw’r bara, du yw’r gwin,
am na fyn yr un adnabod
lliw mor goch yw ei waed ei hun;

wrth i leisiau’r chwe phioden
borthi’r bregeth o’r sêt fawr,
chwythodd ei gweddi fach ar bluen –
rwyf d’eisiau di bob awr.

* * *

Ac yn y dyddiau hynny,
rywbryd wedi cymanfa’r pïod,
fe wyddai fod diwedd yr haf wedi dod.

Daeth amser casglu’r olch,
a gollwng y faner a’i gwynder i gyd,
a gwisgo balchder ei gwên,
yn wyn, wyn, gwynnach na gwyn,
rhag bryntni’r byd.

* * *

Heb adenydd o hyd,
dala’n dynn
wnaeth cwlwm y gwreiddiau mud,
gan gynnal eigwên o ddistawrwydd,
a’i stori drist yn bennod o seibiannau –
dyna i gyd.

Ac yn wir, yn wir,
arhosodd yn ei gofid
ar y goeden dragywydd
drwy’r nos a’r dydd
a’r gaeafau hir,

a heb hidio am sibrydion saith pioden
rhoddodd ei hwylo i guddio mewn gwên,

ac yn y wên hon roedd yna gân
yn cronni ei dagrau mewn nodau mân,
yn barod i’w harllwys yn wlith
un bore, heb eiriau, ar ei galon –
a’i loywi’n lân:

‘Dere ‘da fi nôl i’r man,
lle mae fy nghalon i yn dân,
lle cawn eto rannu’r cyfan,

y man ffeind a braf
mewn gwanwyn a haf
rhwng dau aeaf.’

Ac un diwrnod, â’i gwên yn dal ynghynn,
fe ddaeth e’ nôl i’r man gwyn,
i’w gwylio hi’n glawio’i henaid
i dawelwch y llwch a’r llaid,

daeth a’i dal a’i chynnal,
mewn un ochenaid ysgafn,
cyn disgyn
yn ddau,
fel deilen, fel pluen,
un bore aur heibio i’r haf,
i wely yr aelwyd olaf,

dan y pren
ar y bryn
ar y ddaear
ar ddim.

‘Llasar ’ (ffugenw Mererid Hopwood yn yr eisteddfod).

Gwyddeleg / Gaeilge




Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh

Hafan / Home / Baile.