Mae’r tanciwrs a’r hedars yn tyrru’n un haid,
Mae’r rocars a’r rafins yn jigio’n ddi‑baid,
Mae’r ffermydd yn ffrwydro,
Mae’r gwartheg yn rhydd,
A mae’r plîsmon bach bochgoch yn holi “Beth sydd?”
John Joe sy’n dwad yn colbio bodhran,
Yn cofio bob rhan,
Mae ‘na dwrw yn y mynydd,
Mae ‘na dwrw ym mhob man.
Mae ei locsyn yn siglo,
Mae ei lygaid ar dân,
A mae pawb yn chwerthin
Wrth glywed geiriau cân –
Y Gwyddel hardd, hael, doniol a da – ie!
Mae ‘na Wyddel yn y dre –
John Joe O’Flaherty yw ei enw e’!
Mae pethau wedi gwella
Ers pan mae hwnnw ar y sîn -
Does dim diweithdra yn y ffatri poitín!
O John Joe – aros efo ni, yr hen Wyddel mwyn!
Mi godwn ni dŷ unnos ym Mhant Corlan yr ŵyn,
Ac os wyt ti am fynd adre –
Wel hwyl ar dy daith!
Mi gariwn ni ymlaen,
Ymlaen gyda’r gwaith
O fod yn fawr, yn feddw, yn wallgo
Ac yn wyllt – craic Cymraeg!
Dioch yn arbennig i’r bonheddwr Gorwel Roberts am iddo ddwyn fy sylw at nifer o wallau yn fy fersiwn o’r testun ac am iddo ddarparu i mi’r testun iawn fel y mae bellach.
Y Ddraig Werdd Rhif 2
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.
Gorgysylltiadau / Links Gŵyl Padrig 2004