Dydd Gŵyl Padrig Sant yn y Klondike



Mi fagodd y Gwyddelod barch tuag at Ŵyl Padrig bob tro hyd yn oed fan draw yn anialdiroedd y gogledd. Hyd yn oed petai i’w fywyd fod yn y fantol ni wnai’r un gwr bwt o waith ar y diwrnod hwnnw. Roedd na ysbryd braf ymysg y gwyr i gyd a, dim ots sut y byddai’n peri trafferth iddynt, yr un yr oedd eu hymddygiad ar y dydd gyl hwnnw.

Roeddwn i tu allan wrth ochr y caban ar fore’r Ŵyl Padrig hwn yn llenwi tun ag eira. Wrth i mi sefyll fan hynny, meddyliais yn sydyn fy mod i’n clywed pib yn canu yn y pellter. Ar y cychwyn roeddwn i’n tybio mai breuddwyd oedd hi ond ymhen ychydig fe’i clywais unwaith eto. Yna mi gefnsythais er mwyn ei chlywed yn well ond fel y digwyddai hi, dyma’r pibydd yn peidio â chanu cyn gynted ac yr oeddwn mewn sefyllfa i wrando yn iawn.

Mi aeth tipyn o amser heibio cyn iddo ailgychwyn ond pan y’i wnaeth roedd fel pe bai’n agosach ac mi roedd y gerddoriaeth yn fwy eglur; ac onid ‘Dydd Gŵyl Padrig’ oedd yr alaw a ganai! Mi ddywedwn fod y pibydd erbyn hynny rhyw dair neu bedair milltir i ffwrdd i fyny yn y bryniau y tu ôl i ni. Dyna felly yr roeddwn, tair mil o filltiroedd oddi cartref ond, mewn chwinciad, mi ddychmygais fy mod i yn ôl gyda fy mhobl fy hun yn Cloich Cheannfhaola (‘Carreg Penblaidd’). Neidiodd fy nghalon i fyny gyda chymaint o lawenydd fel yr oeddwn yn sicr ei bod hi’n mynd i neidio allan o fy mron yn gyfangwbl.

Mi redais yn ôl i mewn i’r caban a dweud wrth fy ffrindiau beth oedd yn digwydd. Mi ddaethon nhw allan a phan glywson nhw’r gerddoriaeth, llanwyd nhw gyda sut lawenydd fel y rhuthrodd un ohonynt gyda’r newyddion i’r Gwyddelod i gyd yn y cabanau cyfagos. Mi godon nhw hefyd a phan glywson nhw’r bibgerddoriaeth yn nesu atynt bu bron iddyn nhw fynd yn wallgof. Mi aethon nhw o gwmpas y lle dan ruo a gweiddi sut gymaint fel y byddech yn clywed yr adleisiau yn atseinio yn y mynyddoedd a’r cymoedd a oedd yn ein hamgylchu. Arhosodd pawb yno nes i ni deimlo fod y pibydd yn nesu ac yna mi aethom ni i gyd allan i’w gyfarfod. Doedd neb wedi llawn wisgo a mi roedd hanner ohonom heb fwyta o gwbl ond mi roedd ein gwaed yn danboeth ac er waetha’r rhew doedd neb ohonom yn teimlo’r fymryn lleiaf o oerfel!

Pan gyfarfuom ni ag ef fe’i cludasom ar ein hysgwyddau am gryn dipyn o’r ffordd yn ôl. Daethpwyd ag ef i mewn i’n caban ni ac fe gafodd lond ei fol o fwyd a diod. Ac yr oedd hi’n fore o hyd.

Pan oedd pawb yn barod mi osododd ei bibau yn y cywair iawn ac i ffwrdd â ni fesul pedwar fel milwyr mewn rhengoedd. Doedd ’na’r un alaw Wyddelig a glywsom ni erioed na chwareuodd ef ar y ffordd i lawr y cwm. Roedd na dorfeydd o bobl o wledydd eraill yn gweithio’n ddi‑baid ar ochr y bryn ac ni wyddon nhw ar y ddaear beth oedd yn bod arnom ni yn gorymdeithio yn y fath fodd y tu ôl i’r pibydd. Mi feddylion nhw ein bod ni wedi colli’n pwyll i gyd ond mi egluron ni iddyn nhw mai ein diwrnod ni ydoeddGŵyl fendigaid Padrig Sant.

Mi orymdeithion ni ymlaen nes i ni gyrraedd y gwestai ac i mewn â ni i’r cyntaf y daethom ar ei draws a oedd yn ddigon mawr. Heb orddweud mi ddywedwn i fod hyd at chwe chant o ddynion yno o’n blaen ni—gwŷr o bob rhan o’r byd. Roedd syched arnom wedi’r orymdaith ac, er nad oedd yr un tamaid o’r feillionen yn ein meddiant, mi dybion ni nad peth drwg fyddai glynu wrth yr hen arferiad a’i gwlychu gorau y gallem.

Mi yfon ni rai diodydd yr un ac, wrth i ni ymlacio, mi sefais a gofyn i’r pibydd ailgydio yn ei ei bibau a chanu i ni ’Dydd Gŵyl Padrig’ o naill ben y tŷ i’r llall. Nid cynt gair na gweithred a dyma’r pibydd ar ei draed. . .

Wrth iddi nosi mi gasglon ni ynghyd unwaith yn rhagor a chychwyn i fyny’r bryn ar hyd y ffordd y daethom nes i ni gyrraedd ein cabanau ein hunain eto. Mi roeddem wedi blino’n ln a doedd hi ddim yn anodd gwneud ein gwelâu y noson honno. Mi dreuliodd y pibydd y noson gyda ni a’r bore trannoeth mi ffarweliodd â ni a mynd ymaith i gefn y mynydd ble roedd yntau a dau gyfaill iddo yn gweithio.

Gwyddel dilys rhadlon, fel miloedd eraill o’i hil, mi adawodd ei esgyrn wedi eu hymestyn o dan eira a rhew, ymhell oddi wrth ei bobl, tu allan yn y gwylltgoed, ble na ddeuai neb o’i geraint byth i ddweud gweddi dros ei enaid. Mi glywsom iddo gael ei ladd mewn un o’r siafftiau yn fuan ar ôl iddo ddod atom ni i ddathlu Gŵyl Padrig gyda’i gerddoriaeth yn All Gold Creek.



Oddi wrth ei hunangofiant, ‘Rotha Mór an tSaoil’ (‘Olwyn Mawr y Byd’)
gan Micí Mac Gabhann (1865 – 1948).

Yn y Wyddeleg / Sa Ghaeilge.

Yn Saesneg / In English.

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Gŵyl Padrig Sant 2002.

St. Patrick’s Day 2002.

Hafan / Abhaile / Home.