Y Tad Michael O’ Connor
Dywedwyd am Offeiriad y Plwyf, Kilgobnet:
“ Bob dydd er gwaethaf y tywydd garw gweithiodd yn galetach. Bellach mae ganddo’r boddhad o fod wedi cael gwaith cyflogedig am ganran uchel o’ i bobl.” (Hydref, 1846).
Y Tad Garret Prendergast
Penodwyd yn Offeiriad y Plwyf, Ardmore, ym 1846. Dywedwyd amddano:
“ Mae’r bobl yn llawn gorfoledd ac yn ymbil pob bendith arno ac ar ei ddau gynorthwywr, y Tad O’ Donnell a’r Tad O’Connor.
Y Tad P. Fogarty
Yr oedd yn gurad yn Dungarvan ac ym 1838 fe’i penodwyd yn Offeiriad y Plwyf yn Lismore. Mae cof gwlad amdano hyd heddiw am ei waith yn ystod cyfnod y Newyn yn Lismore a gorllewin Swydd Waterford.
Y Parchedig James Alcock
Gweinidog Eglwys Iwerddon yn An Rinn (Ring). Mae cof amdano am ei waith yn cynorthwyo pysgotwyr An Rinn ar y cyd gyda’r Crynwyr yn ystod y Newyn.
Y Parchedig William Wakeham
Gweinidog Eglwys Iwerddon, Kinsalebeg. Bu farw ym 1848 o’r dwymyn tra’n ceisio liniaru trallod y bobl newynog yn ei blwyf.
©: Cyfiethiad gan Julia Burns.