“From the tradespeople upwards English is spoken. . . . but Welsh is still prevalent amongst the adult labouring class. . . .The (beer) trade was said to be thrown into the hands of any idle vagabond. . . .the beerhouses were generally brothels as well as beer–houses: trade unions, chartism and every mischievous association had its origins in them.”
Ceir llun nes at amodau byw Gwyddelod y dref wrth edrych ar Adroddiad Rammell ar Iechyd a Glanweithdra yng Nghaerdydd ym 1850. Ymhlith poblogaeth y dref yn gyffredinol drwy’r Pedwar Degau, bu farw dros hanner y bobl cyn cyrraedd ei phumed benblwydd. Yn Stryd Stanley, heol prin deg troedfed ar led, lle trigai dros 400 o Wyddelod, roedd hanner y stryd heb eu gosod, doedd dim yr un golau nwy yno, roedd ganddi ffynnon lawn o dd
©: Owen John Thomas, AC. Wedi’i addasu ganddo o’r araith a roes yn Nhabernacl Caerdydd yn ystod y Gwasanaeth Coffa a Chymodi er cof am feirw’r Newyn Mawr a gynhaliwyd yno ar Nos Wener, 18 Hydref, 1996.
Cyhoeddiwyd yn: Y Ddraig Werdd Rhif 2
Ymddengys wrth astudio Cyfrifiad 1851, taw y groesffordd rhwng Strydoedd Bute a’r Custom House a Bute Terras a Hayes Bridge Road oedd y canolbwynt lle wnaeth ardaloedd a phoblogaethau uchel o Gymry, Gwyddelod a Saeson gydgyfarfod. Cadarnheir hyn gan enwau tafarndai’r ardal: Fishguard Arms, St. Dogmael’s Arms, the Merthyr and Dowlais Inn a’r Pembroke Castle; Killarney Inn, Dublin Arms a’r Wexford and Waterford Arms; y Bridgewater Inn, y Plymouth Arms, y Cornish Arms a’r Glastonbury. Mae’n debyg taw yn yr ardal hon y magwyd acen arbennig Caerdydd,, gyda s
Yr adeg hynny, yn aml iawn, roedd tyndra rhwng y Cymry a’r Gwyddelod: roedd nifer fawr o Wyddelod yn y milisia a ymladdodd yn erbyn y rhai oedd yn gwrthdystio dros diwygiad cymdeithasol ym Merthyr a Chasnewydd. Creuwyd parodrwydd y Gwyddelod tlawd i danseilio cyflogau ar y dociau ac ym mhyllau glo’r Rhondda ddrwgdeimlad rhyngddynt a’r Cymry. Fe wnaeth y wasg Seisnig, er nad oedd yn gydymdeimladol â dyheuadau’r Cymry, lawer i gynyddu’r rhwyg rhwng y cefnderoedd Celtaidd. Ym 1848, yn sgîl llofrudd Cymro gan Wyddel yn Stryd Stanley, cwmpaswyd hen Eglwys Gatholig Dewi Sant gan y Cymry a fodd y Tad Millea o’r dref.
Wrth adeiladu’r Drenewydd o gylch 1853, daeth gwelliant i amodau byw y gymuned Wyddelig ac ar yr un pryd blannwyd hadau cymuned newydd yr ardal Heol Plwca yn Y Rhath, yn arwain erbyn y Chwe Degau at sefydlu Eglwys San Pedr (1861). Tua’r un pryd, cafodd cymunedau tebyg eu cychwyn yn Nhreganna a’r Grange Mawr. Ac yn y Naw Degau, gosodwyd sylfeini cymuned wyddelig yn Y Sblot Isa’ gan rai o ffwrneiswyr y Dowlais.
Erbyn yr Wyth degau, ymddengys fod agosatrwydd sylweddol rhwng gwladgarwyr y ddwy genedl, ac ar ôl ffurfio Cymdeithas y Cymrodorion yn Hafarn Coffi Edward Thomas ar gornel Strydoedd Bute a Custom House ym 1885, fe geir y Tad Heyde o Eglwys San Pedr fel un o’i arloeswyr. Yn eirionig, agorwyd y Clwb Hibernian ar ei safle gwreiddiol yn Bute Terras, gan Edward Thomas, ‘Cochfarf’, dirwestwr mawr, Bedyddiwr Cymraeg a diacon yn y Tabernacl yn yr Aes. Roedd Cochfarf yn gefnogwr brwd dros ymreolaeth i Gymru ac Iwerddon, ac yn gynghorydd i’r rhan o’r dre lle trigai cyfran fawr o’r bpblogaeth Wyddelig. Ym 1890, efe a wnaeth arwain un o feibion enwocaf Iwerddon, Pádraig Pearse, o gwmpas yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Yn Chwe Degau’r ganrif hon, roedd Cynnyrch Gwladol Crynswth Cymru o hyd yn ddwywaith cymaint ag yn Iwerddon; ond eleni (1996), am y tro cyntaf, mae’r ystadegau yn dangos bod yr Ynys Werdd wedi mynd heibio i ni. Yn ddiweddar, fe wnaeth cyfaill i mi gael ei stopo yng Nghanol Caer gan gardotyn o Sais yn gofyn am arian. Pan ofynnwyd i’r Sais, beth oedd e’n bwriadau gwneud â’r arian, atebodd, “I’m saving up to go to Ireland to look for work.”
Erbyn heddiw, mae llawer o bobl â’u gwreiddiau yng Nghymru wedi cael eu cymathu gan gymuned Gatholig Caerdydd, ac hefyd mae cannoedd o Gymry Cymraeg ag enwau fel Burns, Murphy, Kane, Flynn, Tobin, O’Neill, Doyle a llawer mwy, yn chwyddo’r nifer gynyddol o’r rhai sy’n siarad Cymraeg yn ein prifddinas. Mae’r gymuned Wyddelig a’r iaith Gymraeg yn rhannau annatod o glytwaith brydferth a chyfrous cymdeithas aml–ddiwylliannol ar drothwy’r fileniwm newydd.