“Dydych chi ddim yn dod o’r parthau hyn?”

Ar ei ffordd drwy ardal wledig yng Ngheredigion aeth y bardd i mewn i dafarn a thorri gair gyda’r tafarnwr yn y Gymraeg.
Ateb i sylw’r gŵr hwnnw yn Saesneg: “You’re not from these parts?” yw ei gerdd fawreddog.

Na, dydw i ddim,
‘dwy’n dod o dalaith ymhell i’r gogledd,
a fu’n deyrnas unwaith,
‘dwi’m yn medru’r acen na’r dafodiaith,
ond pan ddo i’n ôl i’r fro ‘ma eilwaith
yn ddieithiwr diarth, yn dderyn drycin
a sgubwyd gan y storm, neu fel pererin yn dilyn y llwybrau
o Bonterwyd i Bontrhydfendigaid,
fe gerddaf yn hyderus, a golwg hynafiaid
yn cyfeirio fy nhaith, yn llewyrch i’m llygaid;
achos mae pob taith eilwaith yn gwlwm
a’r ddoe sy’n ddechreuad, â ‘fory ers talwm,
ac yn y distawrwydd rhwng dau hen gymeriad
ar gornel y bar, mae’na filoedd yn siarad
am ffeiriau a chyrddau a chweryl a chariad,
am fyd fel yr oedd hi, am y gweddill sy’n dwad:
na, dydw i ddim o’r ardal, ond fe fedra i glywed
clec sodlau y beirdd wrth iddyn nhw gerdded
o noddwr i noddwr, o gwmwd i gantref
cyn dianc rhag Eiddig ar hyd ffordd arall adref:

bum foda, bum farcud, yn brin ac yn beryg,
bum dlws, bum Daliesin,
bum yn crwydro Rhos Helyg,
Bum garw, bum gorrach, bum yma yn niwyg
pregethwr, tafarnwr, breuddwydiwr a bardd,
na, dydw i ddim yn lleol, ond y dyfodol a dardd
yn ddwfn yn hen ddaear Pumlumon, ac wrth fynd,
meddai’r henwr o’r gornel, “Siwrne dda i ti, ffrind!”.

©: Iwan Llwyd. Bardd y Goron yn 1990 (Cwm Rhymni). Gweinidog gyda’r ‘Hen Gorff’ a brodor Sir Fôn oedd ei dad ond yng Ngharno, ger Llanidloes, Powys a ganed y bardd. Roedd ei fam yn perthyn i Geredigion a felly dod â’r ddau ben ynghyd y mae ei wreiddiau teuluol ef.

Cyhoeddiwyd y gerdd hon yn ‘Y Faner Newydd’, Haf, 1998 a chafwyd caniatâd yr awdur ac ei gyhoeddwyr i’w chyhoeddi yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn:

The Green Dragon No 7, Summer 1998

English

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh

Adref / Home