Yn wyneb yr argyfwng yn y broses heddwch yn Iwerddon mae’n bwysicach byth gydnabod cyfraniadau pobl Lloegr tuag at liniaru dioddefaint y Gwyddelod yn ystod y Newyn.
Mae haelioni cyrff crefyddol Lloegr megis Cymdeithas y Cyfeillion a’r British Relief Association wedi’i gydnabod gan haneswyr y Newyn, ond mae cyfraniadau unigolion yn llai hysbyss. Ni wyddys fawr ddim, er enghraifft, am effaith cyhoeddi “Llythyr y Frenhines” ym 1847; llythyr a apeliodd am gyfraniadau dros Iwerddon ac a gododd £220,000 (oddeutu £5m heddiw). Gwnaeth y Frenhines Victoria gyfraniad personol o £2,000 (£50,000 heddiw).
Wrth i ni gydnabod rhan y llu o unigolion yn Lloegr a estynodd gydymdeimlad a haelioni tuag at y Gwyddyl yn eu helbul, nid yn unig y talwn deyrnged i’w cefnogaeth nas cydnabyddir, ond dyneswn hefyd at iacháu “gloesau hanes a chlwyfau parhaus ein dyddiau ni” y’u crybyllwir mor aml.