Heddiw mae cefn gwlad Iwerddon yn frith gan gannoedd o feddau torfol nas nodwyd, tystiolaeth dawel ac ingol i drychineb ddynol annirnadwy o arswydus.
Mae’n amhosibl amgyffred maint dioddefaint y bobl wrth sôn am filiynau. Ond wrth graffu ar brofiadau unigol a neilltuol y cawn ddirnad, i raddau, yr archoll a oddefwyddgan genedl gyfan o bobl.
Dioddefwyd y rhan fwyaf o brofedigaethau Newyn Mawr Iwerddon gan bobl y mae eu henwau yn anhysbys i ni. Hwyrach mai hwn yw’r gwarth eithaf. Serch hynny, ceir unigolion y cofnodwyd eu rhithiau a’u henwau ac y mae’r rhain yn rhoi i ni gipolwg ar brofiad erchyll a oddefodd cannoedd o filoedd o deuluoedd yn ystod y ‘Newyn Mawr’ honedig.
Adroddir un stori felly gan yr artist/gohebydd James Mahony am Glonacilti, Swydd Corc, ar Chwefror 13, 1847. Hyd yn oed yng nghanol y fath brofedigaeth dorcalonnus angau cofnodir brwydr mam i gynnal gwedduster ac urddas dynol.
“Cychwynais o Gorc... ni welais fawr ddim nes i ni gyrraedd Clonacilti. Yma, am y tro cyntaf, datgelwyd erchyllterau tlodi yn y dorf enfawr o dlodion newynog a heidiodd i’r goets i ymbil am gardod. Ymysg y rhain roedd gwraig yn cario corff plentyn hyfryd yn ei breichiau wrth apelio i’r teithiwyr mewn modd dirdynnol tu hwnt am gymorth i’w galluogi i brynu arch a chladdu ei baban bach annwyl...Cefais wybod gan bobl y gwesty fod dwsinau o apeliwyr o’r un fath yn cyrchu i’r dref bob dydd...”
Stori arall yw’r honno a adroddir gan y Tad Peadar Ó Laoghaire yn ei gyfrol epig Mo Scéal Féin (Fy Stori fy Hun) am deulu tlawd a drigai yn ei gymdogaeth yn agos i Macroom, Swydd Gorc:
“Ym 1847 daeth pâr priod ifanc, anghenus tu hwnt, Cáit a Patrick Buckley, a’u dau blentyn, Sheila a Jeremiah, i’r tloty ym Macroom. Wrth fynd i mewn i’r tloty gwahanwyd y teulu cyfan. Yn fuan wedyn aeth y plant yn sâl a marw.
Pan glywodd y pâr ifanc fod eu plant wedi marw gadawasant y tloti i ddychwelyd i’w cartref. Aethant gyntaf i’r bedd torfol gerllaw, lle, yn ôl Tad Ó Laoghaire “wylasant eu gwala.” Wedi hyn cychwynasant ar y daith flinderus saith milltir yn ôl i’w bwthyn bychan, fry yn y bryniau i’r gorllewin o Macroom. Roedd Cáit yn sâl â’r dwymyn a bu raid i Patrick ei chario rhan fwyaf o’r ffordd.”
Mae stori’r Tad Ó Laoghaire yn dirwyn i ben gydag enghraifft ddwysingol o dynerwch dynol: “...Roedd y gwr truenus yn ddigon egwan. Buasai’n anodd arno ddod i ben y daith heb ei faich. Ni ollyngodd ei faich. Cyrhaeddodd y caban. Roedd y caban yn oer ac yn wag o’i flaen, heb na thân na gwres.
Y bore trannoeth daeth cymydog i’r caban. Aeth i mewn. Gwelodd y pâr ac yr oeddynt, ill dau, wedi marw gyda thraed y ddynes ar fynwes Pádrig fel pe bai wedi bod yn ceisio eu twymo. Ymddengys y teimlasai wendid marwolaeth yn meddiannu Cáit a’i thraed yn oer a rhoes ei thraed ar ei fynwes ei hun i’w twymo...”
Mae’r teulu Buckley ifanc, ynghyd â’r fam a’i phlentyn, yn ddwy enghraifft yn unig o ganlyniadau dynol i drychineb a achoswyd gan bolisïau trefedigaethol anghyfiawn Prydain yn Iwerddon. Mae gan eu storïau bychain gyffelybiaethu llu yn ein byd heddiw....
Cyhoeddiwyd y ddarn hon gan yr elusen Wyddelig, ‘Concern Worldwide’ Dulyn 2, Ffôn:00 353 1 4754162, a roes ganiatâd hael i ni ei chyfiethu a’i chyhoeddi.
Cyfiethiad ©: Julia Burns