Fod “miloedd wedi’u gorfodi i fyw ar un pryd o dato y dydd heb unrhyw fwyd arall o’r unrhyw fath;”
Fod “llaweroedd yn cloddio’r planhigion tato ac yn bwyta’r hen had yn ei gyflwr pwdwr presennol,”
Fod “cannoedd o deuluoedd yn mynd taith o 15 milltir i lan y môr i gasglu gwymon a môrwiail eraill i ferwi gyda’u gweddill prin o dato;” gyda phrofion eraill llawn mor alaethus o drueni ac angen.
A ellir erfyn unrhyw beth yn rhagor i beri i Gristion haelionus i helpu i leddfu’r trueni eithafol hwn y mae angen a thlodi’r tlotaf yn y wlad hon mewn cymhariaeth yn wir ddigonedd?
Nid yw ein Gohebydd yn dymuno i’w enw ymddangos ar hyn o bryd gan dybio y byddai’n fwy ffafriol i’r achos fod rhyw berson dylanwadol yn cychwyn y tanysgrifiad; ond mae gennym ei gyfeiriad ar gyfer unrhywun sy’n mynnu cydweithio gydag ef, ac y mae wedi dymuno arnym i roi ei enw i lawr am £10 tuag at y diben a awgrymwyd.
Y mae Archesgob Tuam yn bwydo 300 o dlodion bob dydd yn ei dŷ yn ystod y drychineb a ddisgrifwyd uchod, ac y mae wedi neilltuo 15% o’i incwm i’r perwyl hwnnw tra pery’r trueni hwn. Mae gwraig o’r enw Mrs. Palmer wedi rhoi pedair mil o bunnau at yr un diben ac yr Ardalydd o Sligo un fil a phump cant o bunnau.
Cafwyd yr eitem uchod o dan y dyddiad ‘Gwener, Mehefin 3’ yn ‘The Cambrian’ (Abertawe), dyddiedig Sadwrn, Mehefin 4, 1831, ac yr ydym yn wir ddiolchgar i Mr. Colin Bailey, Magwyr (ger Casnewydd) am ei dwyn i’n sylw.
Chyfiathiad ©: Y Barnwr Hywel ap Roberts.