A phwy all ddychmygu’r dyddiau olaf a dreuliasant ar y ddaear hon? All dyn ddychmygu dim byd ond nhw wedi’u difa yno ar y llawr ar bob tu i’r lle tân yn syllu ar ei gilydd â llygaid y dall. Ni wyddom pwy ohonynt oedd y cyntaf i farw. Neu a oedd yr un a oedd yn dal i fyw yn ddigon ymwybodol i wybod bod y llall wedi marw. Yr unig hanes amdanynt sydd gennym yw bod y ddau’n gorwedd yn farw ar y llawr pan alwodd cymydog yn y tŷ i holi amdanynt.
Ond gallwn edrych yn ôl ar eu bywyd fel yr edrychwn ar luniau symudol sy’n rhedeg heibio i ni, y naill ar ôl y llall. Gwelwn neithior yn Carn na Madadh a’r priodasfab a’i gariad ar y llawr yn wynebu ei gilydd tan ddawnsio. . .
Wele’r ddau allan ar frig y bryncyn. Mae’r lleuad yn llawn ac maent fel petaent wedi eu swyngyfareddu ganddi . . . Y ddau yn gweddu i’r dim i’w gilydd yn rhialtwch y neithior. Síle Bán yn mynd i fyw i Oileán Eala. Bachen braf cydnerth oedd y cyntafanedig, a’r tad yn cyfri’r blynyddoedd hyd nes y byddai’r mab yn gwmni iddo ar eu cwch.
Wedi hynny rhai lluniau eraill. Bad yn cael ei chwythu gan y gwynt ar draws wyneb y môr ddydd a nos hyd nes glanio yn yr Alban. Síle Bán yn cael ei harteithio a’i difetha gan dristwch, hyd nes i Tuathal ddychwelyd ati yn y diwedd, yn union fel pe codasai o’r meirw.
Wedi hynny eto gwelwn y ddau yn dod i dir mawr ac yn ymsefydlu yn Gleann Locha. Gwyr y bentreflan yn rhoi cymorth iddynt. Prynhawn hyfryd o haf a Tuathal a Síle yn edrych ar faint o’r tŷ a oedd wedi’i godi eisoes. Gwên llawenydd yn lledu ar draws eu hwynebau.
Fe’u gwelwn yn byw yn eu tŷ eu hun ac asbri’r ddau blentŷn i’w glywed ym mhob man.
Ac yna lun sy’n achosi syndod ac arswyd i ni — bore heulog ar ddiwedd yr haf a chnwd y tatws wedi ei ddifetha ac yn wywedig, cyn ddued â glo a mor llwm â bach crochan, fel petai mellt o’r nefoedd wedi ymgynghreirio yn eu herbyn a’u difodi. . .
O lun i lun, tan y llun olaf un—dau gorff, â’u croen ac esgyrn wedi gwywo, yn ymestŷn ochr yn ochr â’i gilydd heb nac arch nac amdo i’w gorchuddio, a gwyr y cymdogion yn rhoi pridd arnynt.
Sylwer:
Er mwyn dangos parch iddyn nhw erys enwau aelodau’r teulu a’r enwau lleol yng Ngwyddeleg eu cynefin.
Mae’r llyfr hwn ymysg y llyfrau yn y Wyddeleg sydd ar gael i’w benthyca yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
Darn arall o’r un nofel yn Saesneg.
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.