“Wel,” meddai Martin, “os gen ti ddim ‘rags’, ne croen ‘ningen? Fi cymryd peth felly yn lle bres.”
Yr wyf yn cofio, un tro, fod gennyf ddau neu dri o grwyn cwningod. Aethum i’w nol i’r pentŷ.
“Be ga’i gynnoch chi am y rhein, Martin?”
“Aros di, was; gad im weld be sy gen i yn y basged.”
Tynnodd amryw o bethau allan, ac o’r diwedd cydiodd mewn nifer o hen bapure.
“ Wyt ti yn medru darllen Saesneg, dywed? Well, dyma i ti bapur brynnes i efo lot o bethe erill yn y Plas, — y ‘Bow Bells’. “
“Be neu di â rhwbeth fel ene?” meddai mam. Ond yr oeddwn wedi syrthio mewn ffansi â’r “papure,” ac aeth yn fargen. Cafodd Martin y crwyn cwningod, a chefais innau y ‘Bow Bells’
. Digwyddiad bychan, dibwys. Digon gwir; ond yr oedd yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes meddwl un bachgen yn y Pentre Gwyn. Sawl awr wynfydedig a dreuliais wedi hynny yn ffenestr y llofft, yn darllen y ‘Bow Bells!’ Agorodd fyd newydd o flaen fy nychymyg. A llawr noson loergan lleuad, pan fyddai ei goleu ariannaidd yn ymgymysgu â’r cysgodau dyfnion yn Nghoed y Barcud, byddwn yn eistedd yn y ffenestr, ac yn tŷbied fy mod yn gweld y “marchog” yn dyfod allan o’r coed i waredu y “rhian” oedd wedi ei chipio ymaith drwy drais i gastell y gelyn! Dichon y buasai llawer o’r ystoriau a ddarllennais yn y ‘Bow Bells’ yn ymddangos yn ddigon anhygoel erbyn heddyw; ond, dyweder a fynner, buont yn gymdeithion dedwydd bore bywyd; ac yn y drafodaeth honno, agorwyd fy llygaid i weld gwlad hud a lledrith, bro anfarwol rhamant a breuddwydion.
Martin y Pedlar! Yr wyt tithau wedi cilio oddiar y chwareufwrdd ers blynyddau. Creaist lawer o ddifyrrwch ar dy hynt, er dy fod yn gwneyd ambell i “dro Gwyddelig” gyda dy fargeinion. Y mae y byd wedi cyfnewid, ac wedi prysuro er y dyddiau hynny, pan y byddit ti yn gorfod treulio hanner awr i werthu rhes o binnau! Ond pe y buaset yn aros ar dir y byw, caraswn dy weld am dro, er mwyn cael dweyd wrthyt pa mor werthfawr yn fy ngolwg ydyw y diwrnod hwnnw pan gefais y ‘Bow Bells’ gennyt yn gyfnewid am grwyn cwningod! Yn sicr ddigon, Martin, nid oes gennyf achos i edifaru am y “fargen” honno.
Erbyn heddyw, y mae’r “hen bapurau” wedi mynd i ffordd yr holl ddaear, ond un ddalen felen, frau. Y mae honno wedi goroesi y cyfan, ac yng nghadw mewn cyfrol o dduwinyddiaeth uniongred! Byddaf yn edrych arni ambell dro, a daw rhyw hiraeth anelwig i fy nghalon am y dyddiau diddan, - yr “hen amser gynt.” Byddaf yn gweld Martin gyda’i fasged ar garreg y drws; yn gweld fy hun yn eistedd yn ffenestr y llofft ar fachlud haul, ac yn ofni i’r dydd ddarfod cyn i mi orffen darllen ystori’r “Marchog Du” yn y ‘Bow Bells!’.
Dilynwyd iaith yr awdur, a aned ger Corwen, yn ffyddlon, gan gynnwys y sillafu.
Mae’n debyg i’r stori ddigwydd yn y 1860au cynnar ac y byddai Martin y Pedlar wedi dod i Gymru yn sgîl y Newyn Mawr (1845 - 1849).
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.