****************
Cyn y seremoni hon dethlir Offeren arbennig am 9.15 o’r gloch ar gyfer Dydd Gŵyl Padrig Sant yn Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Heol Seland Newydd, Cathays. (MAP)
****************
Yn ystod y Newyn Mawr yn Iwerddon (1845—1850) gorfodiwyd i oddeutu dwy miliwn
a hanner o bobl ymfudo “i’r nefoedd ynteu tramor...”
Bydd ein meddyliau heddiw gyda nhw a chyda’r bobl a ddioddefodd yn ôl
y tsunami ar ddiwedd 2004, hyrddwynt Katrina ym mis Medi 2005, y daeargryn ym Mhacistan
ym mis Hydref 2005 a’r syrthfa fwd yn y Pilipinas ym mis Chwefror eleni.
Meddyliwn hefyd ar y llu o bobl sydd yn dioddef eisiau dŵr, eisiau bwyd, tlodi, anghyfiawnder a rhyfel.
1. Cerddoriaeth groeso gan by Fred Smow a’i 78’s jazz band.
2. Recordiad CD o’r soprano Americaidd, Renée Fleming yn canu Hard Times Come Again No More gan Stephen Foster (1826 ‑ 1864).
3. Gair o groeso gan John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn.
4. Neges gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Freda Salway.
5. Neges yn y Wyddeleg a Saesneg gan Colm McGrady, Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru.
6. Neges yn y Gymraeg a Saesneg gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, LLywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
7. Côr Cochion Caerdydd: Sliabh Geal gCua.
Cyfansoddiwyd y gân hon yn y Wyddeleg gan yr alltud o Swydd Waterford, Pádraig Ó Miléadha
(1877 – 1947), a ymsedydlodd yng Nghlydach am oddeutu ugain mlynedd cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y côr yn cychwyn gydag un pennill yn y Wyddeleg cyn mynd ymlaen yn y Gymraeg.
Mae’r gân Wyddelig hon o Gymru yn canu tros y bobl sydd yn byw ymhell o’u cartref ac o’u hiaith frodorol.
8. Myfyrdodau yn cael eu harwain gan Rachel Corcoran, Cardiff University Catholic Society.
Fel teyrnged i’r lluoedd o bobl a ddiddefodd y tsunami, Hyrddwynt Katrina a’r trychinebau ym Mhacistan Pakista a’r Pilipinas, bydd Fred Smow a’i jazz band yn chwarae cerddoriaeth gymwys.
9. Anerchiad gan y Parchedig Aled Edwards, Caplan i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymr.
10. Liberty, yn cael ei chanu gan y Côr Cochion Caerdydd.
11. Darlleniad gan y Tad Joseph Breidenbach I.C., Offeiriad y Plwyf, Ioseff Sant, Cathays.
12. Gosodir torchau tra fydd y Côr Cochion Caerdydd yn canu Dona Nobis Pacem.
13. Gwystl a addroddir yn Saesneg ac yn y Gymraeg gan blant ysgol yr ardal.
14. The Country I’m Leaving Behind
Daw y gân hyfryd hon am alltudiaeth o Newtown,
yr hen dreflan Wyddelig yng Nghaerdydd.
Cafodd Dave Burns ei syfrdanu wrth ddarganfod nad oedd neb yn adnabod y gân pan ymwelodd ac Iwerddon, gwlad ei hynafiaid, yn y chwedegau hwyr.
Er i’r alaw, arddull a geiriau ddangos yn glir ei bod wedi cael ei hysgrifennu
– hwyrach yng Nghymru — gan rhywun o Iwerddon, cân yw hon sydd yn canu
tros yr ymfudwyr i gyd waeth pa wlad bynnag a pha iaith bynnag y maen nhw wedi ei gadael.
15. Diolch yn fawr gan John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn.
16. Bydd y Côr Cochion Caerdydd yn arwain wrth i bawb ganu ‘Amhrán na bhFiann’ (Anthem Genedlaethol Iwerddon) a ‘Hen Wlad fy Nhadau’ (Anthem Genedlaethol Cymru).
****************
Ar ôl y seremoni estynnir Fáilte / Croeso / Welcome i chi o 12.00 o’r gloch ymlaen yng Nghlwb Catholig (Cymdeithasol) Ioseff Sant, Heol yr Eglwys Wen. Darperir bwffê am ddim.
Dyred pan fynnych, cymer a welych,
A gwedi delych, tra fynnych trig!
(Gan Sypyn Cyfeiliog,1340 – 1390).
****************
Seremoni wedi’i threfnu gan Fforwm Cymru y Newyn gyda chydweithrediad Plwyf Ioseff Sant a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd.
****************
****************
Erthyglau amrywiol yn Saesneg ac yn y Gymraeg ar y wefan hon sydd yn adlewyrchu’r wyl a thema’r seremoni, ac a fydd, hwyrach, yn achos i ambell i wên, i ddeigryn ac i elfen o ymffrostio.
****************
Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
The Wales National Great Famine Memorial