Caerdydd: Seremoni Goffa a Myfyrdod, Gŵyl Badrig, 17 Mawrth
2009
Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
Mynwent Cathays , Caerdydd
Dydd Mawrth 17 Mawrth, 2009: Dydd Gŵyl Padrig Sant
Am 11.00 o’r gloch yn y bore.
(MAP)
Cyn y seremoni hon dethlir Offeren arbennig am 9.15 o’r gloch ar gyfer
Gŵyl Badrig yn Eglwys Gatholig Ioseff
Sant, Heol Seland Newydd, Cathays. (MAP)
Yn ystod y Newyn Mawr yn Iwerddon (1845—1850) gorfodiwyd i oddeutu dwy
miliwn a hanner o bobl ymfudo “i’r nefoedd ynteu tramor...”
Bydd ein meddyliau heddiw gyda nhw a chyda’r llu o bobl sydd yn dioddef eisiau
dŵr, eisiau bwyd, tlodi, anghyfiawnder a rhyfel yn ein dyddiau ni.
Rhaglen y Seremoni
(Meistr y Ddefod: Mr. Colin Sangster, Plwyf Catholig Ioseff Sant)
1. Rhagair gan John Sweeney, Cadeirydd Fforwm Cymru y Newyn.
2. Croeso dros Ddinas Caerdydd gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, Cynghorydd Kate Lloyd.
3. Neges yn y Wyddeleg a Saesneg gan Llwydd Iwerddon, Mary McAleese,
wedi’i darllen gan Gearóid MacNamara, Prifgonswl Iwerddon yng Nghymru.
4. Neges yn y Gymraeg a Saesneg gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, Llywydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
5.Dave Burns yn canu: The Country I’m Leaving Behind
Cawsai’r gân hyfryd hon am alltudiaeth ei chanu yn fynych yn Newtown, yr hen dreflan Wyddelig yng Nghaerdydd.
Cafodd Dave Burns ei syfrdanu wrth ddarganfod nad oedd neb yn adnabod y gân pan ymwelodd
ag Iwerddon, gwlad ei hynafiaid, yn y chwedegau hwyr.
Er i’r alaw, arddull a geiriau ddangos yn glir ei bod wedi cael ei hysgrifennu
– hwyrach yng Nghymru – gan rhywun o Iwerddon, cân yw hon sydd yn canu
tros yr ymfudwyr i gyd waeth pa wlad bynnag a pha iaith bynnag y maen nhw wedi ei gadael.
Un o blant Newtown, ‘Iwerddon
Fach’ Caerdydd gynt, yw Dave. Mae’n aelod hefyd o’r grwpiau enwog,
‘Yr Hennessys’ ac ‘Ar Log’.
6. Côr Cochion Caerdydd: Sliabh Geal gCua.
Cyfansoddiwyd y gân hon yn y Wyddeleg gan yr alltud o Swydd Waterford, Pádraig
Ó Miléadha (1877 – 1947), a ymsefydlodd yng Nghlydach am oddeutu ugain
mlynedd cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cychwynodd y côr gydag un pennill yn y Wyddeleg wreiddiol cyn canu’r gân i gyd yn y Gymraeg.
Mae’r gân Wyddelig hon o Gymru yn canu tros y bobl sydd yn byw ymhell o’u
cartref ac o’u hiaith frodorol.
7. Ysgol Gynradd Gladstone:
a) Bydd y plant yn adrodd Famine, cerdd gan Anne
Kelly;
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.
8. Ysgol Gynradd Gatholig Ioseff Sant, Cathays:
a) Bydd y plant yn adrodd geiriau’r gân enwog The Fields
of Athenry;
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.
9. Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant, Grangetown:
a) Bydd y plant yn adrodd The Famine, cerdd
syml gan Róisín Hambly;
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.
10. Ysgol Gynradd Gymraeg Mynydd Bychan, Cathays:
a) Bydd y plant yn canu Weithiau rwy’n gofyn;
b) Bydd y plant yn gosod tusw o flodau wrth waelod y Gofeb.
11. Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christ, Llanisien;
a) Bydd y bobl ifanc yn canu’r gâ Wyddelig: Irish Blessing
b) Bydd y bobl ifanc yn gosod tusw wrth waelod y Gofeb.
12. Y Brawd Brian Butler I.C. o’r Eglwys Gatholig Ioseff Sant, Cathays, yn darllen hanes y ffoi o'r Aifft (Matthew 2: 13
‑ 18)
13. Myfyrdod: Y Parchedig Aled Edwards, Prif Gyfareddwr, CYTÛN – Eglwysi
Ynghyd yng Nghymru.
14. Gosod torchau / blodau wrth waelod y Gofeb tra fydd y Côr Cochion Caerdydd yn canu Dona Nobis
Pacem ac yna y gân Wyddelig, ‘Only Our Rivers Run Free’.
Gosodir y torchau yn ôl y drefn hon:
a) Commander Commander John Curteis, y Dirprwy Arglwydd‑Raglaw i Dde Morgannwg.
b) Yr Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Gill Bird.
c) Ar y cyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis‑Thomas, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Mr.
Gearóid MacNamara, Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru.
d) Olwen ar ran Côr Cochion Caerdydd.
15. Dave Burns yn canu, ‘The Parting Glass’.
Cysylltir y gân ffarwelio hon â Donegal a rhai â'r siroedd gorllewinol eraill yn yr
hen dalaith o Ulster.
16. Bendith / Gweddi gan y clerigwyr: y Brawd Brian Butler, I.C., y Parchedig Aled Edwards, y Parchedig John Rowe
(Eglwys Fethodistaidd Cathays).
17. Ôlair gan Harri Pritchard‑Jones, meddyg, llenor a darlledwr.
18. Côr Cochion Caerdydd yn arwain wrth i bawb ganu ‘Amhrán na bhFiann’, Anthem
Genedlaethol Iwerddon.
19. Côr Cochion Caerdydd yn arwain wrth i bawb ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’, Anthem Genedlaethol Cymru.
Seremoni wedi’i threfnu gan Fforwm Cymru y Newyn gyda chydweithrediad Plwyf
Catholig Ioseff Sant a Chyngor Caerdydd.
Ar ôl y seremoni estynnir Fáilte / Croeso / Welcome i bawb o 12.00 o’r gloch
ymlaen yng Nghlwb Catholig (Cymdeithasol) Ioseff Sant, 29 Heol yr Eglwys Wen. Darperir
lluniaeth ysgafn a cheir y feillionen Wyddelig ei gwlychu lawer tro!
MAP
Dyred pan fynnych, cymer a welych,
A gwedi delych, tra fynnych trig!
Gan Sypyn
Cyfeiliog,1340 –
1390.
Hon fydd yr unfed ar ddeg a’r seremoni olaf i gyd a drefnir gan Fforwm
Cymru y Newyn, Caerdydd.
Rydym ni’n ddiolchgar i’r sefydliadau, cymdeithasau ac unigolion i gyd a
fu’n gefnogol i ni mewn ffyrdd amrywiol
ers y seremoni gyntaf yn 1999.
Rydym yn arbennig o ddiochgar i Gyngor Caerdydd ac i’w Gwasanaethau
Profedigaeth.
Ers i’r seremoni gyntaf yn 1999, buon nhw’n
cefnogi’r seremoni bob blwyddyn yn ogystal
â chynnwys y Gofeb yn eu Llwybr
Treftadaeth (gweler rhif 14 y ddogfen).
Diolch yn fawr arbennig i’r Meistr y ddefod, Colin Sangster.
ENGLISH
Diwrnod i gofio...
Yn 2003 trefnodd Michael Blanch, gyrrwr tacsi yn Nulyn, ‘Seremoni Goffadwriaeth y Newyn Mawr’. Cafwyd neb yno ond Michael ei hun
ac ei
wraig, Betty.
Ym mis Mai 2008, ysywaeth, fel canlyniad i’w hymdrechion dewr a dibaid, cyhoeddodd llywodraeth Iwerddon ‘Ddiwrnod Cenedlaethol
Coffadwriaeth Newyn’ a drefnir bob blwyddyn yn Iwerddon a thramor...
Gwell cynnau cannwyll na melltithio’r tywyllwch...
Gorgysylltiadau’r Ŵyl
Erthyglau amrywiol yn Saesneg ac yn y Gymraeg ar y wefan hon sydd yn
adlewyrchu’r ŵyl a thema’r seremoni, ac a fydd, hwyrach, yn achos i ambell
i wên, i ddeigryn ac i elfen o ymffrostio.
Cofeb Genedlaethol Cymru y Newyn Mawr
The Wales National Great Famine Memorial
Hafan / Home / Abhaile.