“Gresynyn gyhoeddi ein bod wedi derbyn gwybodaeth oddi wrth fwy nag un gohebydd gwybodus gan gyhoeddi’r ffaith o’r hyn a elwir yn ‘y geri marwol’ mewn tatws yn Iwerddon, yn enwedig yn y Gogledd. Yn un achos buasai’r person yn palu tatws - y gorau awelasai erioed - mewn cae penodol ar gegn penodol ddydd Llun diwethaf; ac wrth balu’r un cefn ar y dydd Mawrth cafwyd y tatws oll yn bydredig, ac yn anaddas at ddefnydd dyn nac anifail.”
Y Cnwd yn Methu;
Southern Cork Reporter, wythnos gyntaf Hydref, 1845:
“Ymddengys y daten yn iawn wrth ei phalu, ond wrth ei harchilio, ceir smotiau manion o’i chwmpas, a ymddengys megis cornwyd agored neu gancr. O fewn ychydig dyddiau, llwyr ddinistrir tatws yn y fath gyflwr...”
Â’r Tlodion yn Amddifad â Dyfodiad y Gaeaf;
The Freeman’s Journal, wythnos gyntaf Hydref, 1845:
“Mae’n loes galon i mi orfod eich hysbysu bod y pydredd yn ennill tir yn arswydus hyd yn oed ymhlith tatws a fu, wyth niwrnod yn ôl, yn holliach. Ceir y tir yn y fan hon yn isel iawn ei ysbryd: gwelir torgalon a dagrau ar bron i bob wyneb.”