Holais fy nhaid a nain am wybodaeth am y Newyn. Un llinell a lefarodd nhaid i mi oedd “I Reilig an tSléibhe tá na céadta acu treascartha” (“Ym Mynwent y Bryn y mae cannoedd ohonynt a drechwyd”). Llinell oedd hon o gerdd am y Newyn gan fardd mawr o ardal “An Rinn” (ger Dungarvan) o’r enw Máire Ní Dhroma. Enw’r gerdd yw “Amhrán na bPrátaí Dubha”(Cân y Tatws Duon). Pryd bynnag y’i darllenaf yn awr byddaf yn meddwl am yr artaith y mae’n rhaid eu bod wedi’i dioddef a daw dagrau i’m llygaid.
Cynydodd poblogaeth An Rinn cyn y Newyn ond disgynnodd eto o 2,591 i 1,841 ym 1851.
Dywedwyd wthyf yn aml na ddioddefodd gwerin An Rinn cymaint â phobl mewn ardaloedd eraill am fod pysgota yn darparu ffynhonnell dda o fwyd. Yn anffodus gyda’r newyn daeth drycin. O ganlyniad ni châi’r pysgotwyr fynd ar y môr yn eu cychod bychain.
O ganlyniad i’r tywydd garw a’r newyngorfu i lawer o’r pysgotwyr ddefnyddio eu cyfarpar pysgota a’u cychod yn flaendal i brynu bwyd. Ar brydiau bu raid iddynt losgi eu rhwyfau fel tanwydd.
Dodrefnid y tai ynllwm iawn a dychmygwch feddyliau ein cyndeidiau wrth fynd i gysgu gyda’r nos. “Ble ga’i rywbeth i fwyta? Sut galla’i fyw am ddiwrnod arall?”
Ym 1846 roed nifer y cychod a oedd yn addas i’r môr yn Baile na nGall (pentref ger An Rinn) wedi disgyn i wyth. Tua’r adeg hon roedd y bobl wedi dechrau cael y dwymyn a’r dolur rhydd. Mae’n gas gennyf feddwl am neb yn byw yn y fath amgylchiadau. Clywais stori un tro gan fy nhaid a nain yn Léim Uí Bhriain am ddyn a ddaeth ar draws bedwar o blant bach o dan garthen yn wylo ac yn marw o newyn.. Yn anffodus bu farw’r plant i gyd yn fuan wedyn.
Dechreoudd pethau wella i bobl An Rinn pan gafodd y Parchedig James Alcock beth gymorth gan Gymdeithas y Cyfeillion. Rhoes y gymdeithas hon ryw 178 o fenthyciadau i brynu cychod a rhwydi newydd. Amcan hyn oedd cynorthwyo i ymladd y newyn. Defnyddiwyd yr arian hwn i drwsio cychod a phrynu cyfarpar newydd. Ryw fis wedyn dechreuodd y pysgotwyr dalu eu benthyciadau yn ôl. Erbyn Hydref 1847 gallai criwiau 48 o gychod gynnal eu teuluoedd. O hynny ymlaen dechreuodd pobl An Rinn weld oleuni ar ben twnel hir a gerwin.
©: Máiréad Breathnach.
Cyhoeddwyd yr erthygl uchod yn y Dungarvan Leader, 17 Chwefror, 1995. Cafwyd caniatâd caredig y Golygydd, Colm Nagle, i’w chyfiethu ac i’w chyhoeddi.
Cyfiethiad ©: Julia Burns.