Nhad Wrth ei Waith

 

Ar safle’r tŷ newydd gwelaf nhad wrth ei waith

Yn smwddio’i blastr a’i drywell yn sglefrio’n faith;

Trystia’r cymysgwr tra rygna twbyn y gro,

A gwichia’r ferfa pan ddaw’r hen was yn ei dro.

 

Yn fy nghof fe rithia llun yr ystafell a’i si,

Yr estyll ar ei thraws lle saif y gweithwyr gwisgi,

Nhad wrth ei fodd a’r nenfwd fel sidan ei wedd:

Yn y man caiff sbel fach gydaír gwas a phaned yr hedd.

 

Tua hwyr y prynhawn pan derfydd ar rygnu y gro

Ac ar wichian berfa’r hen was drwy’r fro,

Troi tua chartref a wnai nhad ag ei grefft ddrud

Nes goleuo fy nghalon wrth ei weld ar y rhiniog yn fud. 

 

  Barry Tobin , 18 Awst, 1994.

 


Nascanna don Ghaeilge / Links to Irish / Gorgysylltiadau i’r Wyddeleg.

The Poetry of Things

Stephen Tobin, 1913 – 1988

Hafan / Home / Baile.