Wedi darlith Roger Price a chyn i'r lluniaeth ddod i'r golwg roedd aelod Fforwm Cymru y Newyn yn siarad am 'Nos Calan Gaeaf yng Nghymru ac Iwerddon'.
Y cynllun oedd cael noson Gymreig-Wyddelig ddymunol.
Caplandy yw'r lleoliad a felly roedd y noson yn cychwyn gydag Offeren a ddethlwyd am 7.00 o'r gloch gan y Caplan, y Tad John Owen.
Nos Calan Gaeaf oedd hi a fe roeddwn ni'n edrych ymlaen at Wyl yr Holl Saint ar y cyntaf ac at Wyl yr Holl Eneidiau ar yr ail o Dachwedd tra'n edrych yn ôl tua gwreiddiau Celtaidd y cyfnod hynod hwn o'r flwyddyn.
Roedd yr Offeren, y lluniaeth a oedd ar gael a nodweddion eraill y noson Gymreig–Wyddelig hon yn adlewyrchu'r pethau hynny i gyd.
Ar yr un pryd roedd hi yn gweddu ag ysbryd y Wythnos Un Byd drwy helpu magu cyd-ddeallusrwydd rhwng Cymru, Iwerddon ac, wrth ddwyn i gof naws ryngwladol y Caplandy, gweddill y byd.