Fe ddaeth draw i Gymru
Ar ôl y Rhyfel Fawr
O Donegal a’i eiddo yn ei law.
Pum punt yn ei boced
A photel fawr o jin –
Cyrhaeddodd dre Caergybi yn y glaw,
Ac aeth yn syth i’r odyn,
Ac yno roedd yn cysgu
Gyda’i dân a’i botel win.
Un bore yn y Gwanwyn
Y crwydryn aeth i ffwrdd
Gan adael dim ond marwor ar ei ôl.
Tybed i ble’r aeth o,
Pererin mwyn y ffordd –
Efallai at ei deulu yn Donegal.
Ond roeddwn i’n ei nabod
Ac yn ei alw’n ffrind,
Ac rwyf yn dal i’w gofio
Er ei fod o wedi mynd.
Gorgysylltiadau / Links Gŵyl Padrig 2004
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh