Mae pentref Killard yn rhan o Undeb Kilrush, ardal o 17,022 o erwau. Roedd ganddo boblogaeth o 6850 o eneidiau ym 1841 a’i werth , yn nhermau treth y Tlodion, yn £4254. Mr. John MacMahon Blackall, rwyaf yn deall, yw’r prif dirfeddiannwr a’i gartref iach wedi’i leoli’n ardderchog ar ael bryn, wedi’i gysgod gan fryn arall rhag stormau’r Iwerydd. Saif ei do’n ddiogel o hyd, ond diflannodd y bobl.
Pysgota oedd prif waith trigolion y pentref a byddent yn cyfun’u gwaith ar y dwr â thyfu tatws. Wrth i’r olaf fethu gellid disgwyl iddynt droi at bysgota yn fwyfwy, ond gwerthwyd cychod a gwialenni er cynhaliaeth y presennol ac fe ychwanegwyd gadael y pysgodfëydd at fethiant y tatws. Disgynnodd y rhent i ddim ac yna daeth y gwastatwr a’r difethwr.
Beth ddigwyddodd i’r 6850 o eneidiau, ni wn, ond nid erys deg o’r pentref gyfan i ddweud wrth y teithiwr, lle yn ôl y cyfrifiad, y ceid hyd iddynt ym 1841.
Buont yma, ont maent wdi ymadael am byth; a’r cwbl sydd yn weddill o’u haneddau yw ambell i wal yn pydru a thomenni o wellt y toeau yn troi’n wrtaith.
Mae Killard yn enghraifft o hanner yr Iwerddon. Pe na buasai cabanau’r bobl mor fregus eu bod wedi’u cymysgu, megis Babylon, â’u clai cysefin, byddai’r Iwerddon yn enwog am oesoedd am ei hadfeilion....
Cyfiethiad ©: Julia Burns