Er mwyn sicrhau copïau yn ystod y ddarlith gan yr awdur yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd cafodd trefnydd y ddarlith, Barry Tobin, ganiatâd yr awdur yntau ac ei gyhoeddwyr i'w ailargraffu. Ailargraffiwyd 100 copi gyda Barry Tobin ei hun yn talu'r bil.
******************
Llyfr clawr meddal maint A5 yw'r gyfrol. Mae'n cynnwys 40 tudalen gyda 15 lluniau (lluniau 3 –15 yn ddu a gwyn) fel a ganlyn:
1) Ar y clawr blaen: llun coch a gwyn yn dangos Pat O'Brien yn ei anterth ac wedi'i orbrintio gyda'r teitl llawn fel hyn: Pat O'Brien 1910-1953, Ysgolfeistr ac Arweinydd Eisteddfodau.
2) Tu fewn i'r clawr blaen: yr un llun coch a gwyn fel uchod ond heb na gorbrintio na geiriad.
3) Tudalen 2:
"Poplar Cottage Llanfihanel yng Ngwynfa lle ganed Pat O'Brien ym 1910."
4) Tudalen 3:
"Pat O'Brien yn fachgen ifanc."
5) Tudalen 3 eto:
"Mary O'Brien 1881 - 1956 wrth Dŷ'r Ysgol, Llanrhaeadr ym Mochnant c. 1950."
6) Tudalen 8 (llond y dudalen):
"E.D.O'Brien a Jack Parry yn un o'u 'sketches'."
7) Tudalen 9 (llond y dudalen):
"Plant Ysgol Llangadfan ym 1929. Pat O'Brien, ar y chwith a Mrs. Elizabeth Francis wrth ei ochr. Y prifathro, David Pierce Roberts ar y dde."
8) Tudalen 10 (llond y dudalen):
"David Pierce Roberts, Prifathro, Miss Elizabeth Francis, Athrawes ac Edward David 'Pat' O'Brien, disgybl-athro, Ysgol Llangadfan. Bu 'Pat' O'Brien yn ddisgybl-athro yn yr ysgol o Tachwedd 1, 1928 hyd Medi 30, 1929."
9) Tudalen 14:
"Ysgol 'Y Green' Llanrhaeadr ym Mochnant lle y bu E.D.O'Brien yn brif athro o 1933 hyd 1953."
10) Tudalen 16 (llond y dudalen):
"Plant Ysgol yr Eglwys Llanrhaeadr ym Mochnant 1939 Mr. E.D. O'Brien, y prifathro ar y chwith, Ellen May Hughes, athrawes, wrth ei yml ac Edna Davies ar y dde."
11) Tudalen 17:
"Aelwyd Llanrhaeadr ym Mochnant c. 1950 a Pat O'Brien yn sefyll ar y dde."
12) Tudalen 19 (llond y dudalen):
"Y Parch. D. Jacob Davies a Pat O'Brien dau arweinydd eisteddfodol."
13) Tudalen 22:
(Tri llun ar draws hanner uchaf y dudalen gyda'r pennawd cyfunol: "Midnight finish for Eisteddfod"
):
( y llun ar y chwith): "Blodwen Evans Jones, the taller girl, of Rhiw, Denbigh, who won the recitation
under sixteen, and Evelyn Jones, Glasfryn, who was second."
(y llun yn y canol):" Mr. Pat O'Brien who conducted the Eisteddfod."
(y llun ar y dde):" Huw Davies, Llangynog, who won both the solo under 10 and the recitation under
ten."
14) Tudalen 25 (bron iawn llond y dudalen):
"Pat O'Brien a'i fam Mary O'Brien tua diwedd ei fywyd."
15) Tudalen 29 (llond y dudalen):
"Cofeb i Pat O'Brien ym mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa."
Gorgysylltiadau i'r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.