O Dduw y Gogoniant nodda ac ateb ni,
Datod ein cloeau ac esmwytha ein gloes,
A’r bywyd gan dy Galon rho i ni eto,
A’r Tloty boed i ti ei chwalu.
Os o achos ein pechodau cyndyn y daeth y drwg hwn yn ein plith ni,
Agor ein calon a hel y casineb oddi wrthi;
Gad i ddefnyn bach o’th wir ysbryd ein hiacháu eto,
A bonedd y Nef, o na leddfent ein hadfyd.
Nid oes gennym gof ddydd na nos amdanat,
Eithr am drallod y byd yn gwneuthur marwnad,
A’r Iesu, o na ddygit oddi arnom y cwmwl hwn
Fel y byddom yn edrych arnat ar hyd y dydd.
Mae’r Gwyddyl tlawd hyn yn ymgodymu â’r trallod,
Gofid a thrybini a phoenau’r angau,
Plantos truain yn wylo ac yn sgrechian bob bore,
Llwgfa faith arnynt a heb ddim i’w gael.
Nid Duw a ewyllysiodd erioed y gwaith hwn,
Pobl dlawd yn cael eu rhoddi i’r oerfel ar chwâl,
Yn cael eu rhoi yn y Tloty yn brudd a than glo,
Parau priod a wahanwyd hyd angau.
Y plantos ifainc y byddent wedi’u magu â nwyf
Hwy a gipiwyd oddi wrthynt heb dosturi na chariad:
Heb fawr ddim i’w fwyta ond cawl y trueni,
Heb fam i’w hymateb pe buasent yn trengi.
O Frenin y Drugararedd a’r Oen Lân Fendigaid,
Gwele’r cyni a’n poenydia
Ac na ad gyfeiliorni’r enaid tlawd
A brynaist mor ddrud yn Aberth y Groes.
Druain ohonynt y bonedd a feddant gymaint
A dalant y camwedd wrth Frenin y Grasau;
Dynion tlawd y byd hwn na chawsant olud erioed
Ond yn llafurio’n wastadol ar hyd eu hoes.
Byddant wrth waith yn y bore, yn ôl eu harfer,
A wedi hyn hyd hwyrnos yn chwys diferod,
Nid oes lles yn eu gorau oni fyddant wylaidd a dyfal,
Ond ewch chwi adre a gwelwch eich tai ar chwâl.
Cyfiethiad: John Evans a Barry Tobin.
Y Ddraig Werdd, Rhifyn 1, Hydref 1996.
Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh