Y Teulu Burns, Caerdydd

Ar fore tawel o Sul, Tachwedd 19, 1996, ychydig cyn yr Offeren arbennig i goffáu’r Newyn yn Eglwys Gadeiriol Dewi sant, Caerdydd, hunodd fy modryb, Mary May Kiely (née Burns) yn 91 a hanner blwydd oed. Ganwyd hi ar Fai 1af, 1904 yn 5 Stryd Roland, Newton, Caerdydd, yr ail o 8 o blant a hithau’r unig ferch. Roedd hi wedi diddef strôc ryw dair wythnos cyn marw, ond cyn hynny buasai’n llawn diddordeb yn y cynlluniau i goffáu’r sawl a fu farw o ganlyniad i’r Newyn Mawr.Dros y blynyddoedd rhanasai lawer o hanesion yr hen Newtown gyda fi a byddai hi’n adorodd y storïau â’r fath afiaith a ffraethineb fel y byddai’n rhaid i mi chwerthin hyd yn oed wedi’u clywed droeon o’r blaen.

Un o’r storïau oed am fy hen hen daid, John, a ddaethai o Glonacilti gyda’i wraig Mary(née Fallon0 a’u mab, Timothy, yn ystod y Newyn. Mae’n rhaid eu bod wedi gadael Iwerddon ym 1849 oherwydd maent yn cael eu nodi ar gyfrifiad 1851 yn byw yn 6 Love lane, Caerdydd, fel ‘lodgers’ ac fe ddywed y cyfrifiad yn glir fod fy hen daid, Timothy, wedi’i eni yn yr Iwerddon ddwy flynedd ynghynt. Beth bynnag, soniodd anti Mary droeon am y ffaith ei bod hi’n cofio’i hen daid (sef John Burns) yn methu â siarad Saesneg yn iawn ac, wedi iddo fynd yn wr weddw hen, bu ffrae rhynddo a’i chwaer. Roedd yr hen ddyn yn byw gyda hi ar y pryd ac fe aeth dan bwdu i fyny i’r tloty i fyw (yr adeilad yn Canton a oedd, yn nes ymlaen, yn Ysbyty Dewi Sant a lle ganwyd fy nau blentyn hynaf flyneddoedd maith wedyn). Pan glywodd ei chwaer ei fod wedi gwneud y fath beth cywilyddus aeth hithau ar ei hunion i’w gael yn ôl gartref. Ac, wrth iddo ddychwelyd i Newtown, roedd yntau’n dweud yn ei Saesneg chwithig, ‘She has the proud on her.” Tybed p’un o’r ddau oedd y balchaf....

Cafodd fy hen daid, Timothy Burns, o leiaf deg o blant ac o’r deg plentyn hyn y deilliodd holl Burnsiaid y brif ddinas heddiw ac mae yna lwyth ohonom, wir! Roedd Antiu Mary yn cofio cynhebrwng ei thaid, yn ymestyn gannoedd a channoedd o lathenni y tu ôl i’r cerbyd lle roedd hi’n eistedd ynghyd â’r prif alarwyr ar y ffordd hir o Newtown i Fynwent Cathays.

Ym 1995 roedd hi’n dal i sôn am y John Burns a anwyd yn yr Iwerddon ym 1825 ac a fu’n byw trwy’r Newyn Mawr, a hithau yn ei adnabod yn bersonol. Mae’r gysylltiad rhyfeddol o agos ac yn gyd-ddigwyddiad hynod ei bod hi wedi ymadael â’r byd hwn yn gwybod fy mod innau am ddweud peth o’i hanesion ar goedd y diwrnod arbennig hwnnw, er enghraifft, ond y diwrnod cyn iddi ddioddef y strôc roedd Anti Mary yn cadarnhau’r hyn oedd fy nhad, ei phumed brawd, bob amser yn dweud wrthyf ( a finnau yn ei amau weithiau) fod fy Nain wedi’i hanfon o bryd i’w gilydd i gael gwersi Gwyddeleg yn festri Eglwys Sant Paul yn Stryd Tindall, Newtown. Roedd Nana yn wraig weddw a chanddi wyth o blant i’w magu, ond ambell waith byddai’n fforddio’r geiniog, neu’r hanner ceiniog, am wers yn y ‘Gaeleg’ fel byddent yn dweud. Mae’n rhaid bod yr iaith yn ogystal â’r grefydd a’r diwylliant yn bwysig iddi hi er ei phrinder ariannol. Hwyrach mai dyna pam mae’r Gymraeg mor bwysig i ni heddiw.

O’r teulu mawr hyn mae nifer fechan ohonom wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg - sef fy mrawd, David, fy mhlant, plant fy nghefnder, paul a fi. Mae’n gyd-ddigwyddiad arall fy mod i erbyn hyn yn bennaeth adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtyd Sant, Caerdydd, lle mae’n fraint i mi ddysgu nifer o’m cefndryd ifainc o ganghennau erasill y tylwyth mawr.

Mae cefnder arall, sef Dave Burns, wedi llwyddo i wneud ei fywoliaeth trwy ganu gwerin ac fe wnaeth lawer yn y Gymraeg o’r chwedegau hwyr hyd heddiw. Bu’n aelod sylfaen o ‘Ar Log’ ac eleni fe ail-ymunodd â hwy i wneud taith a chryno ddisg newydd. Dysgodd Dave i ganu ar yr aelwyd ac ar aelwyd fy nain yn Newtown a dyna ffordd ryfeddol arall o gysylltu’r ddau ddiwylliantr a’n ddwy wlad Bob tro yr af gyda fy mab ieuengaf i’r Offeren Sul Gymraeg yn Eglwys y Galon Sanctaidd yn Llecwydd, Caerdydd, byddaf yn meddwl am linell hir u cysylltiadau sydd yn plethu fy Nghymreictod heddiw â’m gorfennol Gwyddelig.

©: Julia Burns.

Y Ddraig Werdd Rhif 2

Hafan