Tranc Teulu



Pan gyrhaeddodd y Newyn, bu raid i Síle a’i thad a’i mam a Diarmaidín bach fynd i’r tloty yn Macroom. Cafodd y teulu eu rhannu’n syth.

Rhoddwyd y tad ymysg y dynion.

Rhoddwyd y fam ymysg y merched.

Aed â Síle at y merched ifanc.

Ac aed â Diarmaidín at y plant bach, bach.

Roedd y lle i gyd, a’r holl dlodion yno, yn frith o afiechydion aflan; y bobl yn mynd i lawr gyda rhyw salwch cyn gyflymed ag yr oedden nhw’n cyrraedd y lle, ac yn marw cyn gyflymed ag y deuai’r haint arnyn nhw. Roedd yno fwy na dwywaith gymaint ag yr oedd yna le iddyn nhw, ac i’r rhai nad oedd lle iddynt, doedd yna ddim iddyn nhw’i wneud ond mynd i orwedd ar lan yr afon.

Mi welech chi nhw yno bob bore wedi’u gosod mewn rhengoedd, rhai yn ymystwyrian, eraill yn llonydd...

Ymhen ychydig, deuai rhyw ddynion a chodi’r rhai nad oedd yn symud a’u rhoi mewn tryciau. Mi eid â nhw i le gerllaw Carraig an Staighre, lle’r oedd yna dwll enfawr, llydan, dwfn wedi’i agor, a rhoi’r cyrff i gyd yn y twll. Gwneid yr un peth â’r rhai oedd wedi marw yn y tloty yn ystod y nos.

Cyn bo hir iawn ar ól iddyn nhw fynd i’r tloty, ac i Diarmaidín gael ei wahanu oddi wrth ei fam, daeth angau ar ei warthaf.Taflwyd y corffyn bach i un o’r tryciau a’i gludo i’r twll mawr, a’i daflu i ganol y cyrff eraill...

Doedd hi ddim yn hir wedyn cyn i Síle ddilyn Diarmaidín bach.

Roedd y tad a’r fam yn holi eu hanes cyn amled ag y medren nhw. Doedd y plant ddim wedi marw yn hir pan glywodd y rhieni am hynny...

Penderfynodd y ddau ddianc o’r lle. Cáit oedd enw’r wraig.

Sleifiodd Pádraig oddi yno’n gyntaf. Arhosodd am Cáit ar y ffordd...

Ym mhen ychydig gwelodd hi’n dład, ond yn cerdded yn araf iawn. Roedd hi dan yr haint.

Ymlusgodd y ddau ymlaen tua Charraig an Staighre. Daethant i’r lle lle’r oedd y twll mawr. Gwyddent fod eu dau blentyn i lawr ynddo efo cannoedd o gyrff eraill. Safodd y ddau wrth ochr y twll ac wylo eu gwala...

I fyny ar y Doire Liath roedd y caban lle’r oedden nhw’n arfer byw cyn gorfod mynd i’r tloty. Aeth y ddau tuag ato – chwe milltir ymlaen a hithau’n nosi. Roedden nhw’n llwgu a Cáit yn dioddef o’r haint. Roedd rhaid cerdded yn araf iawn.

Ar ól rhyw ddwy filltir, bu raid i Cáit aros. Fedrai hi ddim cerdded ymhellach. Daeth cymydog ar eu traws, a rhoi mymryn o fwyd a diod iddyn nhw, ond roedd ofn ar bawb roi lloches a llety i rywun oedd newydd adael y tloty a haint ar y wraig.

Cododd Pádraig hi ar ei gefn a gwthio ymlaen tuag at y caban.

Roedd y creadur yn wan ofnadwy ei hun, a byddai’r siwrnai wedi bod bron yn drech na fo beth bynnag, heb ei lwyth. Fel yr oedd hi, roedd rhaid iddo oedi a rhoi ei lwyth i orffwys ar y llawr ger y ffos bob hyn a hyn. Ond pa mor flinedig bynnag oedd o, daliai ati. Rododd o ’mo’i lwyth heibio.

Cyrhaeddodd y caban. Roedd yn oer a gwag, heb na thân nag unrhyw wres...

Bore wedyn daeth rhyw gymydog heibio, a mynd i fewn i’r caban. Gwelodd y pâr ohonyn nhw yno, y ddau’n farw a thraed ei wraig yng nghól mynwes Pádraig, fel petai wedi eu rhoi nhw yno i drio’u cynhesu. Mae’n ymddangos iddo sylweddoli fod hi’n suddo a’i thraed wedi fferu, ac iddo roi ei thraed ar ei fynwes i drio tynnu’r oerfel oddi arnyn nhw...

Mi gyflawnwyd miloedd o weithredoedd cyffelyb yn Iwerddon yn ystod y cyfnod yna, a doedd neb yn synnu at eu gwychder. Yn ól pawb, yr hyn a wnaeth Pádraig Ó Buachalla oedd yr hyn a wnai unrhyw ddyn a oedd yn haeddu cael ei alw’n Gristion.



Wedi’i seilio ar hanesyn yn y llyfr, ‘Mo Scéal Féin’ (‘Fy Stori i fy Hun’) gan an tAthair Peadar Ó Laoghaire (y Tad Peadar Ó Laoghaire, 1839 – 1920).

Mae'r llyfr hwn mewn stoc ymysg y llyfrau yn y Wyddeleg yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd.

Cyfiethiad©: Dr. Harri Pritchard–Jones.

Sylwer: Er mwyn dangos parch iddyn nhw erys enwau aelodau’r teulu a’r enwau lleol (ac eithrio ‘Macroom’) yng Ngwyddeleg eu cynefin.

Yn y Wyddeleg / Sa Ghaeilge.

Yn Saesneg / In English.

Gorgysylltiadau i’r Gymraeg / Nascanna don Bhreatnais / Links to Welsh.

Casgliad John Breese.

Hafan / Abhaile / Home.