Y Ddraig Werdd, Rhifyn 1, Hydref 1996



Rhifyn 1, Hydref 1996.

“Cas yw’r gwr na châr y wlad a’i maco.”

Mae’r ddihareb hon yn codi cwestiwn cymhleth i bob un o Wyddelod Cymru: pa un ai Cymru ynte Iwerddon yw’r wlad a’m magodd? Y ‘Gwyddelod’ yw, nid yn unig y sawl a aned yn Iwerddon ac a ymfudodd i Gymru wedyn, gan ddwyn eu hanes a’u diwylliant gyda nhw, ond y llu niferus hynny a aned yng Nghymru sydd â hynafiaid Gwyddelig ac yr erys o hyd ynddynt rhyw frith gof o’r “sad, unhappy far‑off things and battles long ago”. Ni wn faint o’r rhain sydd i gael ond amcangyfrifir bod rhwng 50% a 60% o drigolion Caerdydd yn ddisgynyddion mewnfudwyr o Iwerddon.

Ffurfiwyd Fforwm Cymru y Newyn wedi cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 1994, a drefnwyd gan ‘Comhluadar Caerdydd’ (Cymdeithas Wyddeleg Caerdydd) a gadeiriwyd gan y bonheddwr Harri Pritchard‑Jones, er mwyn cofio’r ‘Newyn Mawr’ mewn ffordd weddus a phriodol a chyflwyno’r hanes i bobl Cymru i gyd.

Rhoi llwyfan Gymraeg i hanes y ‘Gwyddelod’ bondigrybwyll hyn yng nghyd‑destun Cymru, y wlad a’u derbyniodd ac a roes loches iddynt, er yn anniddig ar brydiau, yw bwriad y ‘Fforwm’ wrth lansio’r ‘Ddraig Werdd’.
Goresgyniad, gorthrymder, gormes, digartrefu, anghyfiawnder, tlodi, newyn, a ffoi dros y môr yw crynodeb hanes Iwerddon tan yn ddiweddar. Wrth i ni lunio’r geiriau hyn y mae Gwyddelod y byd yn brolio am lwyddiant Michelle Smith a chipiodd dri bathodyn aur am nofio yn y Chwaraeon Olympaidd. Gwyddeles ifanc o Ddulyn yw hi a aeth i ‘Gaelscoil’ (Ysgol Wyddeleg) ac a ymddengys ar raglenni teledu a radio Gwyddeleg weithiau. Wrth fyfyrio dros ei champ yn nwr y pwll nofio ni ellir bwrw o’r cof y Gwyddelesau gynt a foddwyd neu a gladdwyd yn nwr hallt yr Iwerydd wrth geisio ffoi i’r un Byd Newydd euraidd......

“Aros yn blentyn am byth ydyw bod heb wybod pa bethau a ddigwyddodd cyn ein geni. Eithr beth ydyw gwerth bywyd dynol oni bai ei fod wedi ei weu i fywyd ein cyndadau gan gofnodion hanes.” (Cicero)

Gwahoddir i’n darllenwyr i ymuno â ni yn Nhabernacl Caerdydd (Yr Aes) am 7.00 ar nos Wener 18 Hydref eleni i’r ‘Gwasanaeth Cymodi’ a drefnwyd gan Fforwm Cymru y Newyn er mwyn cofio meirw’r Newyn ac er mwyn lleihau’r bwlch rhwng y ‘Cymry’ a’r ‘Gwyddelod’. Y gobaith yw cael aelodau’r ddwy garfan i fyfyrio dros hanes y Newyn Mawr a gweddïo yn gytun dan arweinyddiaeth y Gweinidog, y Parchedig Denzil John. Trefnir yr achlysur hon fel rhan o’r ‘Wythnos un Byd’ (19 – 26 Hydref).

“Canys bûm newynog a chwi a roesoch i mi fwyd.” (Mathew, 25 : 35).

Cynnwys

1. Newyn Mawr Iwerddon: Cofio ac Atgoffa.
©: John O’Sullivan, newyddiadurwr annibynol yng Nghaerdydd.
Cyfiethiad ©: Julia Burns, Caerdydd.

********************

2. Newyn 150 : Ffeithiau’r Newyn.
©: Teagasc ('Hyfforddiant') yw sefydliad ymchwil amaethyddiaeth y llywodraeth yn Nulyn.
Cyfiethiad ©: Julia Burns, Caerdydd.

********************

3. Cofio’r Newyn Mawr
©: Dr. Paul O’Leary, hanesydd ar staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhryfysgol Cymru, Aberystwyth.

********************

4. Trueni Skibbereen
Mi ymwelodd N.M.Cummings, Ustus Heddwch yn ninas Corc, â Skibbereen yn ystod y Newyn Mawr gan gyhoeddi ei sylwadau syfrdanol yn syth wedyn mewn papur newyddion lleol.
Cyfiethiad ©: Dr. Harri Pritchard’Jones.

********************

5. Trip Gwyddelig yr Hen Gorff
Taith i Gonnemara yn 1852 gan gynrychiolwyr y Methodistiaid Calfinaidd a ddaw dan sylw ©: Einion Wyn Thomas, Archifydd Meirionydd.

********************

6. Y Meirw Di’Enw
Newyddiadures yn ninas Corc yw Fiona Crean. Ymddangosodd ei herthygl am feirw’r Newyn Mawr mewn bedd torfol yn y ‘Cork Holly Bough’, Nadolig, 1995. Julia Burns a’i cyfiethodd i ni gyda chaniatâd caredig yr awdures ac ei chyhoeddwyr.

********************

7. Sul y Newyn
Esgob Mynyw (Abertawe a De Orllewin Cymru) yw’r Gwir Barchedig Daniel Mullins. Dyma destun ei bregeth yn ystod Offeren Goffa’r Newyn Mawr yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Caerdydd, ar 19 Tachwedd,1995.
Wedi'i chyfiethu gan Julia Burns.

********************

8. Ni Chawn Ddianc rhag ein Hanes waeth pa mor Daer a Ymdrechwn
Colofnydd gyda’r ‘Irish Times’ ydy John Waters. Cyhoeddwyd ei erthygl dreiddgar am adweithiau amrywiol y Gwyddelod tuag at y Newyn Mawr yn y papur hwnnw ar 17 hydref, 1995.
Cafwyd caniatâd caredig i’w chyfiethu ac i’w chyhoeddu gan y Rheolwr Olygydd, David Nowlan.
Cyfiethiad ©: Julia Burns.

********************

9. Grosse Île, Quebec.
Ar 21 Awst, 1994, ymwelodd Mary Robinson, Arlywydd Iwerddon, ag ynys Grosse Icirc;le, Quebec, lle bu farw pymtheg mil o Wyddyl, yn wŷr, yn wragedd ac yn blant, o ‘Dwymyn y Newyn’. Ceisiasent loches yng Nghanada rhag y Newyn Mawr. Dyma destun ei haraith.
Cyfiethiad ©: Julia Burns.
Saesneg / English

********************

10. Gwledydd Cyfoethog, Cenhedloedd Tlawd
Darlithydd mewn hanes yn Ysgol y Dyniaethau, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, Wrecsam, yw awdur yr erthygl hon, Geraint O. Thomas, a’i ysgrifennodd yn arbennig i ‘Y Ddraig Werdd’.

********************

11. Dyled a Datblygu
Datganiad gan y ‘Cynghrair Iwerddon Dyled a Datblygu’ (ffôn : 00 353 46 21525) yw testun y ddarn hon.
Cyfiethiad ©: Muiris Mac Ualghairg, Caerdydd.

********************

12. Y Wyrcws
Testun o daflen gan y mudiad dros hawliau dynol, AfrI (Dulyn), ffôn 00 353 1 4968595.

Cyfiethiad ©: Robat ap Tomos, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Caerdydd.

********************

13. Cân y Tatws Duon
Barddes wlad, Mâire Ní Dhroma, o’r pentref pysgota, An Rinn, yn ardal Dungarvan, Swydd Waterford, a gyfansoddodd y gân hon yn ystod y Newyn Mawr.

Cyfiethiad ©: John Evans a Barry Tobin.
Gwyddeleg a Saesneg / Irish and English



Y Tîm Cynhyrchu:

Cadeirydd: John Sweeney
Ysgrifennydd / Golygydd: Barry Tobin
Trysorydd / Tanysgrifiadau: Joe Moore
Ymgynghorydd Iaith: Julia Burns
Swyddog y Wasg: John O’Sullivan
Ymgynghorydd Cyfrifiadur / D.T.P.: Andrew Jinks

‘Gwylnos Americanaidd’; Plentyn yn Ymadael’:

“Roedd hi’n debyg i gynhebrwng mawr....yr ymadawiad olaf....yn drist iawn i’w weld....Roedd y rhieni yn arbennig o drist, fel petai’r person a oedd yn gadael wedi marw’n wir....Byddai’n well gennych beidio â bod yno o gwbl petaech yn meddu ar unrhyw deimladau meddal.”

(Llawysgrif 1411, Adran Llên Gwerin Iwerddon, Coleg y Brifysgol, Dulyn.)

Y Ddraig Werdd: cyflwyniad

Y Ddraig Werdd Rhifyn 2

Hafan / Home